Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at waith cyngor Mynwy a'r gwaith a wnaethoch yn eich rôl fel arweinydd hefyd. Gwn fod nifer o enghreifftiau, o bob rhan o'r wlad, o wahanol fentrau y mae cynghorau ac awdurdodau lleol yn eu gwneud i hyrwyddo gwerth cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol a'u cynnwys wrth wraidd yr hyn a wnânt. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i adeiladu ar hyn a'i gryfhau.
Bydd y dyletswyddau caffael yn y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar ganlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol wrth wario arian cyhoeddus. Bydd hefyd yn rhoi gwaith teg wrth wraidd hynny, a'r hyn a olygwn wrth gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yw sicrhau, fel y dywedwch, llesiant economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ar draws popeth a wnawn. Mae'n rhywbeth rydym wedi ymrwymo i'w wneud ac rydym wedi ymrwymo i ddeddfu er mwyn adeiladu arno hefyd.