Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:20, 24 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb manwl yna. Fel rŷch chi'n gwybod, mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae tlodi gwledig yn arbennig, sydd yn berthnasol i'r rhanbarth dwi'n ei chynrychioli, yn aml iawn yn mynd o dan y radar: tlodi tanwydd yn arbennig; ardaloedd gyda chyflogau a lefel gwerth ychwanegol gros yn is na chyfartaledd Cymru; a phellter o wasanaethau cwbl hanfodol. Fel rŷch chi'n ei wybod, o ran costau byw, mae disgwyl y bydd y rheini'n codi rhyw 5 y cant erbyn y gwanwyn nesaf, ac rŷn ni yn gresynu, wrth gwrs, fod y Torïaid yn San Steffan yn gwrthod newid eu meddwl ar ddileu'r £20 yr wythnos ychwanegol yna ar gredyd cynhwysol.

Rôn i'n falch iawn o glywed am yr ymrwymiad rŷch chi wedi'i nodi yn barod—y £51 miliwn—i helpu teuluoedd sydd ag argyfwng costau. Mae'r Sefydliad Bevan, yn ddiddorol iawn, wedi nodi yn ddiweddar fod 10 y cant o aelwydydd yng Nghymru ar ei hôl hi o ran talu biliau, a'r elusen StepChange yn dweud bod 21 y cant o boblogaeth Cymru yn profi anawsterau ariannol. Felly, allwch chi ddweud wrthyf i, Weinidog, o safbwynt y manylion arbennig yna, sut ydych chi'n bwriadu ymateb i'r her dlodi o ran biliau ynni? Diolch yn fawr.