Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams. Yr wythnos diwethaf, fel y dywedais, cyhoeddasom becyn cymorth gwerth £51 miliwn ar gyfer aelwydydd incwm isel; bydd £38 miliwn ar gael drwy'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf; £1.1 miliwn i fynd i'r afael â thlodi bwyd, gan gynnwys ymestyn prosiect llwyddiannus Big Bocs Bwyd; a bydd cyhoeddiadau pellach, gan gynnwys cymorth i leihau cost y diwrnod ysgol, yn cael eu cyhoeddi'n fuan.