Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun peilot ar yr incwm sylfaenol cyffredinol, syniad yr ysgogwyd diddordeb ynddo yn sgil y ddadl a arweiniais yn llwyddiannus yn y Senedd ddiwethaf. Ond mae'n bwysig inni gael treial llwyddiannus yma yng Nghymru, oherwydd gallai hynny ychwanegu at yr achos y sonioch chi amdano yn eich ateb cyntaf. Ac i fod yn wirioneddol lwyddiannus, mae angen i'r Adran Gwaith a Phensiynau gytuno i weithio'n adeiladol gyda Gweinidogion Cymru, gan mai hwy sydd â'r cymhwysedd o safbwynt lles. Gwnsler Cyffredinol, a ydych wedi sôn wrth Weinidogion Cymru am bwysigrwydd sgwrs adeiladol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, a pha gamau y gellir eu cymryd i sicrhau'r cytundeb hwn?