Cyngor ar Gyfraith Gyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:33, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei ail gwestiwn. [Chwerthin.] Mae cwmnïau cyfreithiol a'r bar yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o gyngor ar gyfraith gyhoeddus, a dylai cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gefnogi mynediad at gyngor o'r fath. Mae hynny'n cynnwys edrych ar sut y mae'r sector cyhoeddus yn comisiynu gwasanaethau cyfreithiol, a lansio Cyngor Cyfraith Cymru yn ddiweddar wrth gwrs.