Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:50, 24 Tachwedd 2021

Cwnsler Cyffredinol, dyw e ddim yn anodd sylwi ar y diffyg deddfwriaeth gynradd y tymor yma yn y lle hwn. Wedi chwe mis o'r chweched Senedd, dwi ond yn ymwybodol o un Bil Llywodraeth sydd wedi ei gyflwyno yn y Senedd. Yn wir, roedd Bil Peter Fox yn cael ei wrthwynebu gan y Llywodraeth yn rhannol oherwydd diffyg amser. Yn y pumed Senedd, dim ond 32 o Filiau basiwyd fan hyn, o'u cymharu ag 85 yn Senedd yr Alban. Dro ar ôl tro, rŷn ni'n gweld y ddadl am ddiffyg capasiti, diffyg arbenigedd a diffyg amser yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel rheswm i ddefnyddio Biliau yn San Steffan yn hytrach na phasio Biliau Cymreig, ac roedd y ddadl am amser hefyd yn cael ei defnyddio yn erbyn Bil Peter Fox. Wrth gwrs, rwyf i wedi dweud e fel tôn gron: mae defnyddio Biliau San Steffan yn cymhlethu'r setliad datganoledig, mae'n sicrhau nad yw'r Biliau'n ddwyieithog, ac mae'n gwneud hygyrchedd lot yn anoddach, a hefyd bod dim craffu go iawn yn digwydd yn y fan hon. Os yw capasiti, os yw arbenigedd, os yw amser yn broblem wirioneddol, pa gamau ydych chi'n eu cymryd er mwyn i ni allu gwneud ein gwaith go iawn fan hyn fel Senedd a phasio Deddfau Cymreig?