Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Gwnsler Cyffredinol, fel llawer o Aelodau'r Senedd, roeddwn yn falch iawn o glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gynlluniau peilot pleidleisio hyblyg, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio, ond ar yr un pryd, credaf fod gennym gyfeiriad teithio anffodus gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'i hargymhellion ynghylch cardiau adnabod pleidleiswyr, a fydd yn lleihau'r nifer sy'n pleidleisio ac yn fwyaf arbennig yn difreinio aelodau o rannau mwy ymylol o'n poblogaeth.
Y set nesaf o etholiadau i ni yma yng Nghymru, fel y sonioch chi, Gwnsler Cyffredinol, yw'r etholiadau lleol y flwyddyn nesaf. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, gyda chefndir cyffredinol yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ond gyda phryder hefyd ynglŷn ag argymhellion Llywodraeth y DU, sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sicrhau bod cynifer â phosibl o bobl yn pleidleisio yn yr etholiadau lleol hynny yng Nghymru y flwyddyn nesaf.