Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Wel, diolch ichi eto am y sylw hwnnw, a'r cyfeiriad at y pwyntiau a godwyd gan Syr Wyn Williams yn ei drydydd adroddiad wrth gwrs. Ac rydych yn gwneud yr achos dros ddatganoli cyfiawnder yn gryf iawn ac rwy'n cymeradwyo hynny.
Credaf y bydd y materion sy'n ymwneud â'r tribiwnlysoedd, trefniadaeth y tribiwnlysoedd, a phenderfyniadau'r tribiwnlysoedd yn fater i'r hyn y credaf y bydd yn Fil tribiwnlysoedd, lle bydd yn rhaid edrych ar yr holl faterion hyn, oherwydd mewn gwirionedd yr hyn a wnawn mae'n debyg yw creu rhan newydd strwythuredig o system farnwrol Cymru a fydd yn ymgorffori'r tribiwnlysoedd a bydd yn rhaid inni edrych nid yn unig ar weithrediad y tribiwnlysoedd eu hunain, eu hannibyniaeth, ond hefyd y ffordd y gellir gorfodi neu weithredu'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud.