Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Weinidog, mae bob amser yn braf clywed Gweinidogion yn sôn am bwysigrwydd cymryd rhan mewn etholiadau, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod hyder ac ymddiriedaeth mewn unrhyw lywodraeth yn dechrau gyda'r bleidlais, a'r bleidlais yw sylfaen democratiaeth wrth gwrs. Ac er mai yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai y gwelwyd y nifer uchaf erioed o bleidleiswyr ar gyfer Senedd Cymru, dim ond 46.6 y cant a bleidleisiodd er hynny, o'i gymharu â 63.5 y cant yn etholiadau Holyrood ym mis Mai yn yr Alban a 67.3 y cant yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019. Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn rhannu fy mhryderon ynghylch y nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd o ystyried pwysigrwydd ein Senedd a'r cyfrifoldeb sydd ganddi. Felly, gyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda swyddogion cyfatebol yn Senedd y DU a Senedd yr Alban i ddeall pam y mae cymaint mwy o bobl yn pleidleisio yn yr etholiadau hynny nag a wnânt mewn etholiadau yma ar gyfer y Senedd?