Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd. Gallai Cymru fod yn genedl annibynnol ffyniannus—geiriau'r gwir anrhydeddus Michael Gove. Edrychaf ymlaen at ei weld yn rali nesaf Yes Cymru. Nawr, er tegwch iddo, a gallaf fod yn deg â'r Torïaid hefyd, aeth ymlaen i ddweud bod pobl yng Nghymru yn elwa o gael dwy Lywodraeth, ac mai datganoli yw'r gorau o'r ddau fyd i Gymru. Nid wyf fi, wrth gwrs, yn cytuno â hynny, ond er mwyn i ddatganoli weithio, mae angen parch a chydweithrediad rhwng Llywodraethau. A dro ar ôl tro, gwelwn y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn chwalu. Mae hynny'n glir o sawl memorandwm cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Gyda llefarydd Rhif 10 yn dweud ddoe am brifweinidogaeth Boris Johnson,
'Mae llawer o bryder y tu mewn i'r adeilad... Nid yw'n gweithio', a chydag ASau Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn ac yn ymatal dro ar ôl tro mewn pleidleisiau yn San Steffan, mae'n hen bryd, onid yw, i Boris Johnson roi'r gorau i siarad gwag a dechrau gweithio'n adeiladol gyda Llywodraethau'r ynysoedd hyn. Ac roedd yn siomedig darganfod unwaith eto ddoe nad oedd Boris Johnson wedi mynychu uwchgynhadledd Prydain ac Iwerddon. A oes gennych y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhynglywodraethol, yn enwedig mewn perthynas â gweithredu cymrodeddu annibynnol sy'n fawr ei angen i ddatrys anghydfodau rhynglywodraethol?