Cymorth i Deuluoedd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:07, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, edrychaf ymlaen yn fawr at y gynhadledd ar-lein y cyfeiriwch ati, sy'n ddigwyddiad trawsbleidiol, ac yn un sydd hefyd yn cynnwys yr Arglwydd Thomas, ond sydd hefyd yn cynnwys yr undebau llafur, y bobl sy'n gweithio yn y sector cyfiawnder. Credaf y bydd llawer i'w ddysgu o hynny, ond nid oes unrhyw amheuaeth gennyf, ac unwaith eto, i ailadrodd sylwadau'r Arglwydd Thomas, nad yw'n gwestiwn o os yw datganoli cyfiawnder yn digwydd, ond pryd.

Ar y sylwadau, gwrandewais yn astud iawn ar dystiolaeth yr Arglwydd Thomas i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac ar yr argymhellion neu'r awgrymiadau penodol a wnaeth. Mae'n debyg mai'r gorau y gallaf ei ddweud yw bod gennyf gryn ddiddordeb mewn edrych ar sut y gallwn eu harchwilio a'u datblygu ymhellach.