Ymestyn yr Etholfraint i Garcharorion

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:19, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Gwnsler Cyffredinol, gan fod cymaint o'i le gyda'r system cyfiawnder troseddol, yn enwedig y methiant i gael unrhyw effaith ar adsefydlu carcharorion, oherwydd bod y gwasanaeth carchardai wedi'i danariannu ac oherwydd y ffordd gwbl annigonol rydym yn trin carcharorion. Maent yno i gael eu cosbi, ond maent yno hefyd i gael eu hadsefydlu. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod carcharorion—neu'r rhan fwyaf o garcharorion, o leiaf—yn cael y bleidlais, er mwyn sicrhau bod annigonolrwydd y gwasanaeth cyhoeddus a ddarparwn drwy ein carchardai, sy'n eithriadol o ddrud, yn cael ei godi a'i drafod a'i ystyried yn briodol gan unrhyw un sy'n Aelod etholedig.