Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar ystâd y Senedd am amrywiaeth o resymau. Maen nhw'n helpu'r Aelodau i ymgysylltu â'r cyhoedd, ac yn rhoi cyfle inni gyd wrando a thrafod yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru. Mae'r rheolau sy'n llywodraethu defnyddio'r ystâd ar gyfer digwyddiadau yn egluro na ddylid ei defnyddio am resymau sy'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol, nac er budd masnachol, ac ni ddylent gynnwys deunydd a allai beri tramgwydd. Cyfrifoldeb yr Aelodau sy'n noddi'r digwyddiadau hynny yw sicrhau eu bod yn glynu wrth y polisïau yma.