Offer TG

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:27, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr. Mae'n dda gwybod y bydd yr offer hwn sy'n ddiangen o'n safbwynt ni yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag achosion teilwng ledled Cymru. A yw'r Comisiwn wedi ystyried rhoi rhywfaint ohono i wledydd sy'n datblygu y mae gennym berthynas agos â hwy, drwy raglen Cymru ac Affrica? Oherwydd nid oes gan y rhan fwyaf o'r gwledydd hyn fawr ddim offer TG, ac er mwyn ymgysylltu â'r byd ehangach, ac yn sicr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd, mae angen gliniadur arnoch i allu ei wneud yn effeithiol.