Digwyddiadau Allanol

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:24, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae gennym weithgareddau na chaniateir eu cynnal ar ystâd y Senedd ar hyn o bryd, sef digwyddiadau at ddibenion masnachol a busnes, gweithgareddau pleidiol wleidyddol ac unrhyw ddigwyddiad sy'n arddangos deunyddiau a all beri tramgwydd. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad yr wythnos diwethaf a pheth o'r sylw a roddwyd iddo yn y wasg, a'r safbwyntiau a fynegwyd gennych. Ein dealltwriaeth ni oedd mai amcan y digwyddiad oedd addysgu Aelodau ar y fasnach dybaco anghyfreithlon yng Nghymru, ac felly nid oedd, fel y cyfryw, yn mynd yn groes i'r meini prawf.

Ond rydych wedi codi'r pwynt ynghylch yr angen i barhau i adolygu'r defnydd o'n hystâd a'r hyn rydym yn ei ystyried yn ddefnydd priodol o'n hystâd. Ac fel Comisiwn, rwy'n siŵr ein bod yn barod i wneud hynny bob amser. Efallai na fydd yn ymwneud â materion unigol o’r math hwn, na chwmnïau unigol yn wir, ond os oes yna egwyddorion y mae unrhyw Aelod yn teimlo y dylai'r Comisiwn eu hystyried wrth ddiwygio unrhyw godau sydd gennym ar gyfer defnyddio’r ystâd, byddwn yn fwy na pharod i fynd â'r materion hynny o egwyddor at y Comisiwn.