Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Iawn, fe roddaf gynnig arni fel hynny. Mae safle adeiladu ychydig y tu allan i fy ystafell yma, felly rwy'n gobeithio nad oes gormod o sŵn yn y cefndir.
Felly, roeddwn yn dweud ein bod wedi dweud yn gyson nad lesddeiliaid a greodd y problemau a nodwyd, ac mae'n iawn i'r rhai sy'n gyfrifol dalu i'w hunioni. Ym mis Hydref 2020 ysgrifennais lythyr agored at ddatblygwyr i'r perwyl hwnnw, ac ym mis Hydref eleni cyfarfûm â nifer o ddatblygwyr, gyda chynghorau lleol, i drafod eu cynlluniau ar gyfer adfer adeiladau sydd â diffygion diogelwch. Rydym yn falch iawn fod nifer o ddatblygwyr Cymreig wedi neilltuo arian ers hynny i ailosod cladin a mynd i'r afael â gwaith diogelwch tân arall ar eiddo yng Nghymru. Mae'n galonogol gweld bod yr ymrwymiad, mewn rhai achosion, yn ymestyn y tu hwnt i'r cladin yn unig lle bo angen er mwyn gwneud yr adeiladau hynny'n ddiogel, a'u bod hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am adeiladau o dan 18 metr. Fodd bynnag, mae'n destun gofid nad yw rhai o'r datblygwyr mawr sy'n gyfrifol am yr adeiladau hyn wedi cymryd rhan yn y broses honno ac nad ydynt eto wedi ymateb i hynny, felly byddaf yn cysylltu â hwy eto i geisio eu gorfodi i ddod at y bwrdd, er nad oes gennym bwerau ar hyn o bryd i allu eu gorfodi i wneud hynny.
Rhoesom Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019 ar waith hefyd, a daethant i rym ym mis Ionawr 2020. Mae'r rheini'n gwahardd gosod deunyddiau llosgadwy ar y tu allan i adeiladau preswyl uchel, ysbytai a chartrefi gofal. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas ag ACM nad yw'n cydymffurfio, fel y'i gelwir—cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm—fel yr hyn a welwyd ar Dŵr Grenfell. Rydym eisoes wedi gweld yr holl ACM anniogel yn cael ei dynnu oddi ar y rhan fwyaf o adeiladau uchel yng Nghymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar yr adeiladau sydd ar ôl.
Ond gwyddom nad cladin yw'r unig fater sy'n codi o ran diogelwch adeiladau. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir fod angen i'n dull o weithredu fod yn gwbl gyfannol, gan ymdrin â llu o faterion fel rhwystrau tân, rhannu'n unedau ar wahân, llwybrau dianc rhag tân, ac yn y blaen. Gwyddom fod yr effeithiau'n sylweddol ar lesddeiliaid a phreswylwyr. Rwyf wedi cyfarfod y bersonol â nifer fawr iawn ohonynt dros fisoedd lawer, a gwyddom fod hyn yn cael effaith yn ariannol ac ar les, fel y dywedodd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi preswylwyr a lesddeiliaid ac rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu'r opsiynau hynny. Agorwyd ein datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar 30 Medi. Rydym wedi cael ymhell dros 100 o ymatebion i hynny hyd yma. Byddant yn nodi'r mesurau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud yr adeiladau amlbreswyl mor ddiogel ag y gallant fod, a diogelu bywydau ac eiddo. Nid ydym wedi cyfyngu hynny i adeiladau dros 18 metr; rydym wedi tynnu hynny i lawr islaw hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cynnwys yr holl bobl yr effeithir arnynt, ac rydym yn bwriadu cynnig pecyn cymorth i lesddeiliaid a phreswylwyr a fydd yn caniatáu iddynt deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a gwneud penderfyniadau am y dyfodol.
Rydym hefyd yn awyddus iawn i wneud cyhoeddiadau pellach ar gam nesaf y gronfa pasbort diogelwch adeiladu, ond fel y gwyddoch i gyd, mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi bod yn siomedig i Gymru. O ran y symiau canlyniadol, ni wnaeth Llywodraeth y DU ei gwneud yn glir fod swm canlyniadol yn deillio o sylwadau Robert Jenrick cyn iddo gael ei ddiswyddo o'r Cabinet, ac wrth gwrs cafwyd adolygiad cynhwysfawr o wariant bellach, felly mae hynny i gyd wedi'i aildrefnu, ac mae'n amhosibl bwrw ymlaen â hynny. O ystyried faint o arian a gawsom drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, gwyddom yn sicr nad ydym wedi cael y lefel o arian canlyniadol y byddem wedi'i ddisgwyl.
Serch hynny, rydym yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau diogelwch adeiladau. Rydym yn gobeithio cael syrfewyr ar safleoedd ym mis Ionawr ar gyfer yr holl adeiladau sydd wedi mynegi diddordeb yn hyn. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant adeiladu a'r diwydiant yswiriant i sicrhau bod gennym syrfewyr sy'n gallu gwneud yr arolygon hyn a'r ffrwd waith yn ei lle a'r contractwyr ar gael. Wrth inni ddeall beth yw maint y gwaith adfer sy'n angenrheidiol ar gyfer yr adeiladau hyn, byddwn yn gallu edrych ar faint o gyllid sydd gennym. Rydym wedi dyrannu rhywfaint o arian ar ei gyfer, ond y gwir yw nad ydym yn gwybod beth yw maint yr anhawster ym mhob un o'r adeiladau, ac yn anffodus, ni cheir un ateb sy'n addas i bawb; bydd gan bob adeilad ei set gwbl wahanol a chymhleth ei hun o broblemau'n galw am eu hunioni. Rydym hefyd yn gweithio i gwblhau manylion cynllun prynu allan i helpu'r rhai sydd yn yr amgylchiadau anoddaf o ganlyniad i'r problemau hyn. Rwy'n gobeithio cyhoeddi hynny'n fuan i'r Senedd.
Mae maint y broblem yn enfawr. Mae pob adeilad yn wahanol, ac yn syml iawn, nid wyf yn gwybod a yw'r cyllid yn ddigon. Nid oes unrhyw ddiben i Janet Finch-Saunders fy meirniadu am y peth—ni allaf greu ffigur o ddim—ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid wyf yn cyhoeddi pethau er mwyn gwneud iddo ymddangos yn well heb wneud dim byd yn ei gylch mewn gwirionedd. Mewn adolygiadau o wariant yn unig y cawn glywed beth yw cyfanswm y newid o setliadau adrannau Whitehall, felly nid oes gennyf unrhyw fanylion am newidiadau unigol i raglen y DU. Byddaf yn codi hynny gyda fy Ngweinidogion cyfatebol yn y DU cyn gynted ag y gallaf gyfarfod â hwy.
O ran diwygio cyfraith lesddaliad, bydd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd yn lleihau rhenti tir ar brydlesoedd newydd i fod yn daliad hedyn pupur, ac rydym yn gweithio ar Fil i'w gyflwyno yn nes ymlaen yn Senedd y DU i weithredu'r diwygiadau eang i lesddaliadau a gynigir gan Gomisiwn y Gyfraith, diwygiadau y mae rhai ohonynt wedi'u datganoli mae'n wir, ond dim ond rhai, ac mae angen newid y pethau nad ydynt wedi'u datganoli hefyd er mwyn helpu lesddeiliaid.
Ar y dreth ffawdelw, cawsom anhawster gwirioneddol i gael Llywodraeth y DU i gytuno â ni am dreth ar dir gwag hyd yn oed, felly nid oes wybod pa mor hir y bydd yn cymryd iddynt wneud hyn. Ac ar yr un pryd, mae'n rhaid inni fod yn siŵr, drwy osod treth ffawdelw ar ddatblygwyr yng Nghymru, nad ydym yn eu gyrru dros y ffin i Loegr. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gymorth ariannol i helpu i ariannu gwaith adfer mewn ffordd sy'n deg i'r lesddeiliaid ac i drethdalwyr, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar dreth ffawdelw ar draws y diwydiant adeiladu yng Nghymru, gyda'r arian yn dod i Gymru.
Y peth olaf roeddwn am ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, yw y bydd y Bil diogelwch adeiladu rydym yn ei gyflwyno yn unioni'r holl broblemau o'r pwynt hwnnw ymlaen. Rydym yn gweithio gyda chynghorau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi, a bod gennym yr amddiffyniadau a'r diogelwch tân cywir yn ei le ar eu cyfer. Ond fel y dywedais droeon yn y Siambr hon ac rwy'n ei ailadrodd un tro olaf, nid lle i fyw yn unig yw cartref ym Mhrydain—mae'n aml yn fuddsoddiad, a'r anhawster yw adfer yr adeiladau mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel heb iddynt golli eu buddsoddiad, oherwydd mae gennyf bob cydymdeimlad â'r sefyllfa y maent ynddi. Ac mae hynny, ni waeth beth fydd unrhyw un yn ei ddweud wrthych i'r gwrthwyneb, yn beth anodd a chymhleth iawn i'w wneud, ac rydym yn gweithio'n gyflym i weithio ein ffordd drwy'r materion cymhleth hynny.
Rwy'n falch iawn fod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn, ac rwy'n falch iawn o fod wedi cael y ddadl hon yn y Siambr.