6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil diogelwch cladin

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:14, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Soniodd Jane Dodds hefyd am fywydau pobl ar stop, ac fe wnaeth ein hatgoffa eto mai pobl sydd yn y canol yn hyn i gyd.

Cytunaf â Janet Finch-Saunders—mae angen inni wybod beth yw'r nifer. A chytunaf fod diogelwch tân yn llawer mwy na chladin yn unig, fel y soniodd y Gweinidog hefyd.