Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ac mae'n bleser mawr gennyf wneud hynny, gan fod Cymru'n genedl o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid.
Oherwydd y pandemig, mae llawer ohonom wedi treulio mwy o amser nag arfer gartref. I mi, roedd gennyf ffrind gorau dyn yn fy swigen dros y cyfyngiadau symud—fy naeargi Jack Russell, Cadi, sy'n ffyddlon, er yn gyfarthlyd. Gwnaed heriau'r 18 mis diwethaf yn haws drwy fynd am dro ar hyd yr arfordir gyda Cadi, a gwn fod pobl a theuluoedd eraill dirifedi wedi croesawu ychwanegiadau newydd blewog i'w cartrefi yn ystod y pandemig. Yn union fel y gwelwn bob Nadolig, cafwyd ymchwydd amlwg yn nifer yr aelwydydd a brynodd gi bach neu gath yn ystod y cyfyngiadau symud. Amcangyfrifir gan y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes fod cyfanswm o 3.2 miliwn o aelwydydd yn y DU wedi cael anifail anwes ers dechrau'r pandemig.
Fodd bynnag, wrth i newyddwch bod yn berchen ar gyfaill o deulu'r cŵn neu'r cathod bylu, sylweddolodd nifer bryderus o berchnogion cymaint o ymrwymiad sydd ynghlwm wrth ddarparu cartref am byth i anifail anwes. Ac felly, gorfodwyd canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid Cymru i ddarparu lloches i'r anifeiliaid anwes na allai neu na fyddai eu perchnogion yn gofalu amdanynt mwyach. Er bod llawer o berchnogion yn mynd ati'n synhwyrol i gysylltu â'u canolfannau ailgartrefu lleol, roedd rhai achosion gwirioneddol erchyll lle roedd perchnogion yn cael gwared ar eu hanifeiliaid anwes ar ymyl lonydd gwledig tawel, yn y gobaith y gellid anghofio a dileu eu pryniannau yn ystod y cyfyngiadau symud.
Yn anffodus, nid oedd y rhain yn ddigwyddiadau anghyffredin. Ar hyd a lled Cymru, mae canolfannau achub a llochesau bellach wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Mae RSPCA Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y 998 o achosion o adael anifeiliaid anwes a ddigwyddodd yn ystod 10 mis cyntaf y flwyddyn hon eisoes yn uwch na'r cyfanswm ar gyfer 2020. Mae hyn yn dangos y pwysau cynyddol ar ganolfannau sy'n ei chael hi'n anodd ateb y galw. Mae'r cynnig heddiw yn tynnu sylw at waith pwysig y canolfannau hyn, ac mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r rheoliadau lles anifeiliaid presennol i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hyn. Mae hefyd yn cydnabod y pwysau cynyddol a osodir ar y llochesau anifeiliaid a'r canolfannau ailgartrefu ledled Cymru ac mae'n ceisio diogelu lles yr anifeiliaid sydd yn eu gofal.
Yn sicr, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu, at ei gilydd, gynllun lles anifeiliaid diweddaraf y Gweinidog ar gyfer 2021-26. Fodd bynnag, ac fel yr esbonia'r cynnig hwn, rydym yn rhannu barn y sector nad yw'r cynllun hwn yn mynd yn ddigon pell yn ei ymdrechion i ddiogelu lles anifeiliaid yng Nghymru. Yn y 15 mlynedd ers i'r lle hwn gael y pwerau perthnasol, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu cyflawni strategaeth glir sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau lles anifeiliaid heddiw. Mae'r cynnig hwn yn galw am atgyfnerthu galwadau'r sector lles anifeiliaid i reoleiddio'r nifer anhysbys ar hyn o bryd yng Nghymru o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid a llochesau, ond mae'n gosod ffocws penodol ar y rhai sy'n gweithredu ar-lein. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ceisio gweithredu llinell amser bendant ar gyfer cyflawni hyn.
Fel llawer yn y sector hwn, roedd y meinciau hyn yn hynod siomedig ynglŷn â diffyg brys Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Ac o ganlyniad, rydym ar ei hôl hi o gymharu â'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr. Dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar y Llywodraeth hon i gyflwyno rheoliadau erbyn 2023. Mae unrhyw oedi cyn rheoleiddio gweithgarwch achub ac ailgartrefu yn peryglu lles pob anifail anwes. Ond nid yn unig hynny. Mae oedi pellach yn creu risg o gamfanteisio pellach ar y bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol ar fridio cŵn a gwerthiannau anifeiliaid anwes gan y rhai sy'n dymuno gwneud elw cyflym o werthu anifeiliaid mewn ffyrdd sy'n greulon.
Ac yn olaf, ac yn bwysicaf, gellid dadlau, mae'r cynnig hwn yn gosod dyletswydd statudol ar bob canolfan ailgartrefu i fodloni'r safonau hyfforddi, staffio ac amgylcheddol gofynnol. Mae angen inni sicrhau bod y rhai sy'n gofalu am anifeiliaid a adawyd yn cael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth angenrheidiol i allu gwneud hynny. Ond mae hefyd yn sicrhau bod anifeiliaid yn eu gofal yn cael eu diogelu yn erbyn rhai a allai, gyda'r bwriadau gorau, fod eisiau cynnig lloches, ond na allant yn anffodus roi gofal a sylw o'r safon y mae'r anifeiliaid hyn yn eu haeddu neu eu hangen. Y peth olaf un rydym am ei weld yma yng Nghymru yw ein lloches anifeiliaid Tiger King ein hunain. Mae'r cynnig hwn yn croesawu themâu cyffredinol cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd Llywodraeth Cymru, ond mae hefyd yn mynd y tu hwnt i'r hyn a argymhellir ar hyn o bryd, a thrwy weithio gyda'r sector lles anifeiliaid, mae'n gwella'r safonau gwasanaeth y gellir eu cynnig.
Ddirprwy Lywydd, y digwyddiad cyntaf i mi ei noddi yn y Senedd hon oedd un ar gyfer Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru, sy'n cael ei gadeirio'n feistrolgar gan y cyn-Aelod, Bethan Sayed. Roeddwn yn falch iawn o weld cynrychiolaeth drawsbleidiol mor gryf o'r holl feinciau yn y digwyddiad, gan dynnu sylw at yr ewyllys wleidyddol i gryfhau'r elfen hon yng nghyfraith Cymru. Mae'r cynnig hwn wedi'i lunio ar y cyd â'r Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes ac ystod eang o randdeiliaid allweddol yn y diwydiant. Felly, gadewch inni fod yn llais i'r rhai nad oes ganddynt lais a phleidleisio dros wella lles anifeiliaid yma yng Nghymru. Diolch.