Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr; mae'n bwysig iawn i'r holl waith caled y mae'n ei wneud dros anifeiliaid y tu allan i'r Siambr hon hefyd.
Nawr, ers blynyddoedd, rwyf bob amser wedi bod eisiau cael cath neu gi anwes. Cofiaf fynd ar bererindod grefyddol yn naw oed gyda fy mam, a ddywedodd wrthyf yn y lle mae nifer o bobl yn ei ystyried yn fwyaf sanctaidd ar y ddaear, 'Natasha, yn ystod y bererindod hon, beth bynnag y gofynni di i Dduw amdano, fe'i cei.' Sefais yno, yn naw mlwydd oed, edrych i fyny ar yr awyr a dweud, 'Dduw, rwyf eisiau cath.' Er gwybodaeth, ni chefais mo'r gath. Ond mae o leiaf 10 cyfle wedi bod ers hynny lle gallwn fod wedi cael un.
Y rheswm pam na chefais gath neu gi erioed oedd oherwydd bod fy rhieni wedi dweud wrthyf, 'Natasha, mae anifail anwes gennyt am oes, nid dros dy ben-blwydd neu'r Nadolig yn unig.' Wrth dyfu i fyny, fel llawer ohonoch sydd â phlant neu'r Aelodau nad ydynt yn y Siambr gyda ni heddiw efallai, fel chithau, roedd fy rhieni'n gweithio'n llawn amser, ac roeddent yn credu'n gryf iawn os nad oeddem gartref, a minnau yn yr ysgol ar y pryd, y byddai'n peri gofid i'r anifail gael ei adael gartref ar ei ben ei hun am oriau lawer yn ystod y dydd, ac nid oedd hynny'n rhywbeth y gallai'r un ohonom fod wedi byw gydag ef. Ar hyn o bryd rwy'n ymdrechu'n galed iawn i argyhoeddi fy mam fod angen ci arnom, ac rwyf bron â llwyddo, felly gadawaf ichi wybod a yw hynny'n digwydd ai peidio.
Ers blynyddoedd, rwyf wedi bod â pharch mawr at yr elusennau a'r llochesau ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, ac o waelod calon, rwy'n cymeradwyo'r holl staff sy'n gweithio'n ddiflino i ddiogelu anifeiliaid o bob math ac o bob cefndir.
Ddydd Iau diwethaf, cefais y pleser mwyaf o ymweld â chanolfan anifeiliaid yr RSPCA yng Nghasnewydd. Gwelais anifeiliaid a oedd wedi dioddef llawer oherwydd esgeulustod a thrais dan law pobl, ac roedd fy nghalon yn gwaedu drostynt. Efallai nad oeddent yn gallu siarad drostynt eu hunain, ond mae'n hollbwysig fod pob un ohonom fel gwleidyddion yn siarad drostynt, nid ar ran aelodau o'r cyhoedd yn unig, ond ar ran anifeiliaid hefyd.
Fel ei ganolfannau eraill, mae canolfan anifeiliaid Casnewydd yn cydymffurfio â safonau lles trylwyr, ac mae'r RSPCA wedi galw ers tro am fframwaith rheoleiddio ehangach ar gyfer lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trwyddedu llochesau, canolfannau ailgartrefu a sefydliadau eraill hefyd. Rydym yn cynnal y ddadl hon heddiw i reoleiddio'r sefydliadau hyn er mwyn cynnig diogelwch cyfreithiol i'r anifeiliaid yn y 90 o lochesau yr amcangyfrifir eu bod yn gweithredu yng Nghymru.
Yn wahanol i sefydliadau eraill, megis ysgolion marchogaeth, nid yw bridwyr cŵn a lletywyr cathod, llochesau a chanolfannau achub yn ddarostyngedig i reoliadau ar hyn o bryd. Yn y bôn, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Gareth Davies, golyga hyn y gall unrhyw un sefydlu lleoliad o'r fath, ni waeth a oes ganddynt y sgiliau neu'r adnoddau angenrheidiol i ofalu am anifeiliaid, ac mae hynny'n peri pryder gwirioneddol i rywun fel fi.
Hoffwn gofnodi o'r cychwyn fy mod yn cydnabod y gwaith amhrisiadwy y mae llochesau'n aml yn ei wneud i adsefydlu ac ailgartrefu anifeiliaid. Fodd bynnag, mae'n hanfodol darparu hyfforddiant sylfaenol, a sefydlu safonau pendant ar gyfer pob canolfan anifeiliaid i sicrhau bod lles yr anifeiliaid yn eu gofal o ansawdd da. Ond nid yw'r diffyg mesurau i ddiogelu lles anifeiliaid yn y sefydliadau hyn, y gellir eu sefydlu heb unrhyw arolwg na gofyniad cyfreithiol am safonau lles cadarn a chynlluniau wrth gefn, yn dderbyniol ac ni all fod yn gynaliadwy. Gall pobl sydd â bwriadau da sylweddoli'n gyflym na allant ymdopi, a dangosir hynny gan y ffaith drist fod rhai llochesau wedi methu dal ati yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod y degawd diwethaf, gorfodwyd yr RSPCA i fwrw ymlaen â thros 10 erlyniad yn sgil gofal annigonol mewn llochesau. Mae angen gofal arbenigol ar lawer o'r anifeiliaid sydd mewn llochesau neu ganolfannau achub, ynghyd â dealltwriaeth dda o'u hanghenion cymhleth yn sgil eu hamgylchiadau trawmatig. Yn ogystal â chael staff sy'n bodloni'r meini prawf hyn, mae angen arbenigedd i sicrhau bod y sefydliadau'n ariannol gadarn ac yn ticio'r holl flychau ar gyfer sicrhau iechyd a diogelwch yr anifeiliaid o'u mewn.
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae trefniadau llywodraethu cadarn a chynlluniau wrth gefn pan fydd pethau'n mynd o chwith yn hanfodol ar gyfer rhedeg lloches lwyddiannus. Rwy'n credu'n gryf fod angen inni reoleiddio llochesau i lenwi'r bwlch presennol, gan sicrhau bod safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid yn orfodol yn hytrach na gwirfoddol. Diolch.