Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch. Wel, na, ni allaf i wneud sylw ar achos unigol, ac ni all y Gweinidog wneud hynny chwaith. Fodd bynnag, yn amlwg, mater i'r heddlu yw hwn, sydd, fel y gwyddoch chi, yn fater a gadwyd yn ôl, ond byddaf i'n sicr yn sicrhau bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi clywed eich sylwadau. Efallai y byddai'n well pe baech chi'n ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, oherwydd, yn amlwg, mae'n cyfarfod yn rheolaidd â'r pedwar heddlu.