Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Wel, nid wyf i o'r farn y byddai'n briodol i ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â hynny.
O ran eich pwynt cyntaf ynghylch y celfyddydau a diwylliant, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei sesiwn gwestiynau ei fod wedi cyfarfod â swyddogion ddoe a oedd yn ystyried pa gefnogaeth, os o gwbl, neu pa gymorth pellach, y byddai ei angen ar y sector celfyddydau a diwylliant. Ac rwy'n credu iddo ef ddweud bod y Gweinidog yn aros am ragor o gyngor cyn dod i benderfyniad.