Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Gweinidog, ddydd Mercher, mae gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn cael ei gyflwyno am dri mis yn Abertawe, a bydd yn berthnasol i ymddygiad fel cymryd cyffuriau a meddwi. Mae'n golygu y bydd modd atafaelu alcohol a chyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar y stryd cyn i'r sefyllfa fynd yn broblem, ac mae modd cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhegi ac ymddygiad ymosodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth i'r Senedd ystyried llwyddiant mesurau o'r fath? Diolch.