Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Gaf i ofyn am un datganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi a/neu'r Gweinidog diwylliant ynglŷn â lefel yr help ariannol neu ymarferol all gael ei roi i sinemâu, theatrau, canolfannau celfyddydol wrth iddyn nhw weithredu'r pàs COVID? Dwi'n meddwl am sefydliadau fel Canolfan Ucheldre, Theatr Fach a sinema'r Empire yn Ynys Môn, sy'n cael eu rhedeg fel mudiadau cymdeithasol a sydd jest angen ychydig o help er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gweithredu y pasys yn effeithiol.