3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Cynllun Gweithredu Digartrefedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 30 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:52, 30 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n lansio cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd. Cynllun yw hwn sy'n datblygu ar ein strategaeth o 2019 i roi terfyn ar ddigartrefedd ac argymhellion y grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd. Mae'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer cyflawni ein huchelgais o roi terfyn ar ddigartrefedd i bobl ledled Cymru. Hoffwn i ddweud ar y dechrau, ac ar y noson cyn i'r cytundeb cydweithredu ddod i rym, fod rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn uchelgais yr ydym ni'n ei rannu gyda Plaid Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau i roi'r cynllun hwn ar waith a gwneud popeth yn ein gallu i wireddu'r uchelgais hwnnw.

Dirprwy Lywydd, mae'r pandemig wedi effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Mae wedi newid sut rydym ni'n ymateb i ddigartrefedd hefyd. Ers mis Mawrth 2020, gyda chefnogaeth ein hawdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a phartneriaid yn y trydydd sector, rydym ni wedi herio yn ei hanfod, ganrifoedd o ymfodloni a goddefgarwch. Mae'r pandemig wedi amlygu lefel o ddigartrefedd a oedd wedi ei chuddio yn flaenorol, ond mae hefyd wedi ein galluogi i gefnu ar ffyrdd sefydledig o weithio ac, wrth wneud hynny, mae wedi dangos i ni, drwy newid ein dull gweithredu yn wirioneddol ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.

Rwyf i wedi bod yn eglur iawn: ni fydd dim troi yn ôl. Mae cyfle erbyn hyn i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig, i gymryd camau radical i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Yr hyn sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu i roi terfyn ar ddigartrefedd yw'r angen am newid radical i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni wneud y newidiadau angenrheidiol i'r system i atal digartrefedd a symud yn gyflym i ailgartrefu er mwyn i bobl fod mewn llety dros dro am yr amser byrraf posibl. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal yn y rhan fwyaf o achosion er mwyn iddo fod yn beth anghyffredin yn y dyfodol. Mae'n ymwneud â thrawsnewid ein gwasanaethau digartrefedd a thai fel bod digartrefedd, pan fydd yn digwydd, yn para am amser byr, ac y bydd pobl yn cael eu cefnogi yn gyflym i'w lleoli mewn cartref addas a sefydlog fel na chaiff eu profiad o ddigartrefedd ei ailadrodd.

Mae'r cynllun gweithredu yn pennu gweledigaeth fesuredig a strategol ar gyfer dyfodol gwasanaethau digartrefedd ac yn ein galluogi i ddatblygu model ôl-bandemig o'r hyn sy'n normal. Mae ein dull gweithredu wedi ei seilio ar dystiolaeth ac mae'n adeiladu ar adroddiadau ac argymhellion y grŵp gweithredu digartrefedd arbenigol, sydd wedi gweithio gyda'r sector, darparwyr gwasanaethau ac, yn bwysicaf oll, gyda defnyddwyr y gwasanaethau. Nid mater o dai yn unig yw hwn. Mae'r cyfrifoldeb dros roi terfyn ar ddigartrefedd yn ymestyn y tu hwnt i'r timau a'r adrannau pwrpasol ar gyfer digartrefedd a thai. Mae'n rhaid i hyn fod wedi ei seilio ar ymateb gan y gwasanaethau cyhoeddus i gyd ac felly y bydd hi.

Mae achosion digartrefedd yn ymestyn y tu hwnt i nifer y cartrefi fforddiadwy sydd ar gael. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion strwythurol craidd tlodi ac anghydraddoldeb, sicrhau bod y mesurau atal cyffredinol ac wedi eu targedu ar gael ac yn effeithiol, ymateb yn effeithiol i drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae hyn yn gwneud rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth draws-sector, draws-Lywodraeth sy'n berthnasol i iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cymunedol a'n heconomi ehangach. Caiff hyn i gyd ei gydnabod yn y cynllun gweithredu, yn ogystal â'r angen am ddiwygio deddfwriaethol a pholisi yn eang. Mae'r cynllun gweithredu yn dibynnu ar bartneriaeth ac ar waith ataliol; bydd angen ategu hyn â dewrder ac arweinyddiaeth ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rwy'n derbyn y bydd rhai o'r newidiadau uchelgeisiol yr ydym yn awyddus i'w gweld, fel y pwyslais ar atal ac ailgartrefu yn gyflym, diwygio deddfwriaethol, a'r rhaglen fawr a pharhaus o adeiladu tai cymdeithasol yn heriol. Gallai hyn achosi pryder ynghylch cyflymder y newid. Rwy'n deall y pryderon hyn ac rwy'n benderfynol y bydd Llywodraeth Cymru, lle bynnag y bydd angen rhagor o gymorth, yn ei ddarparu, fel yr ydym ni wedi ei wneud gyda'r buddsoddiad mwyaf erioed yn y grant cymorth tai a'r grant tai cymdeithasol.

Rwy'n disgwyl i landlordiaid, timau datblygu tai, a chynllunwyr arddangos brys yn y ffordd yr ydym yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rwy'n disgwyl gweld anghenion tai cymunedau amrywiol a'r hyn yr ydym ni'n ei wybod erbyn hyn am raddfa a natur wirioneddol digartrefedd yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad o'r farchnad dai leol, a'r anghenion hynny yn cael eu hadlewyrchu mewn prosbectysau tai awdurdodau lleol a chynlluniau datblygu rhaglenni. Mae'r brys yn amlwg yn hyn o beth, gyda mwy na 6,900 o oedolion a phlant yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Yn y tymor byr, rwy'n disgwyl gweld pob landlord cymdeithasol, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r awdurdodau sy'n dal stoc, yn dod i'r adwy ac yn chwarae eu rhan wrth ddyrannu tai i'r rhai mwyaf anghenus ledled Cymru, a byddaf i'n gwylio eu cynnydd yn ofalus yn hyn o beth.

Yn rhy aml, defnyddir dyraniad tai yn wobr am ymddygiad da yn hytrach na bod yn rhagofyniad hanfodol ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu ac anghydraddoldeb cymdeithasol. Rwy'n disgwyl gweld newid yn hyn o beth. Yn y tymor hwy, i roi terfyn ar ddigartrefedd, mae angen i ni gynyddu capasiti tai yn y sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat. Mae ein rhaglen adeiladu tai cymdeithasol uchelgeisiol yn arf pwysig i gyflawni ein hamcan o roi terfyn ar ddigartrefedd a symud tuag at ailgartrefu cyflym.

Mae gan y sector rhentu preifat ran bwysig iawn yn y farchnad dai, gan alluogi pobl a theuluoedd i ddod o hyd i gartref sy'n addas iddyn nhw. Felly, mae'n bleser gen i gyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer cyflwyniad cenedlaethol gynllun lesio Cymru. Rhaglen yw hon sy'n seiliedig ar ein cynllun treialu llwyddiannus, a gwerth £30 miliwn dros bum mlynedd, ac mae'n ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu a fydd yn ei gwneud yn haws cael gafael ar dai fforddiadwy hirdymor yn y sector rhentu preifat. Mae'n rhoi sicrwydd i denantiaid a hyder i landlordiaid. Bydd perchnogion eiddo yn cael eu hannog i gynnig eu heiddo ar les i awdurdodau lleol yn gyfnewid am warant rent a chyllid ychwanegol i wella cyflwr yr eiddo. Yna fe all awdurdodau lleol ddefnyddio'r eiddo hynny i ddarparu llety fforddiadwy o ansawdd da i bobl ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd tenantiaid ar y cynllun yn elwa ar sicrwydd o ddeiliadaeth tymor hwy am rent sydd wedi ei gyfyngu i gyfraddau'r lwfans tai lleol, a gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael y lefel o gymorth y bydden nhw'n ei ddisgwyl mewn tai cymdeithasol. Bydd yn cryfhau'r berthynas rhwng awdurdodau lleol a landlordiaid y sector preifat, gan agor llwybrau i dai ar gyfer aelwydydd sy'n dioddef digartrefedd neu dan fygythiad digartrefedd ac yn cynnig sefydlogrwydd a chymorth ariannol i landlordiaid. Nid wyf i'n tanbrisio maint y trawsnewid sydd ei angen, ond, fel sy'n glir yn y rhaglen lywodraethu a'r cynllun gweithredu, rwyf i wedi ymrwymo i'r trawsnewid hwn yn llwyr.

Rydym ni wedi gweld yr hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, drwy sicrhau nad oedd neb yn cael ei adael ar y strydoedd drwy gydol y pandemig. Nawr, mae angen i ni gamu ymlaen gyda'n gilydd yn arweinwyr ac yn weithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau cyhoeddus, yn unfryd o ran peidio â goddef digartrefedd a gweithio i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le i'w alw'n gartref. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio ym maes digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai am y cymorth a'r gefnogaeth enfawr y maen nhw'n eu rhoi bob dydd. Maen nhw'n trawsnewid bywydau pobl, maen nhw'n estyn gobaith ac yn ddi-os maen nhw wedi achub llawer o fywydau drwy gydol y pandemig hwn. Fy mlaenoriaeth i bellach yw adeiladu ar y llwyddiant hwn, a bydd hyn yn cael ei ddwyn ymlaen mewn cydweithrediad â grŵp Seneddol Plaid Cymru yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Diolch yn fawr.