3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Cynllun Gweithredu Digartrefedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 30 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:07, 30 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dirprwy Lywydd, mae o'n drist dweud, ond mae'r ystadegau digartrefedd diweddaraf yma yng Nghymru yn peintio darlun trist, a hynny yn rhannol oherwydd polisïau ciaidd Boris Johnson a'i Lywodraeth ddiegwyddor yn San Steffan. Symudwyd, er enghraifft, bron i 1,400 o bobl ddigartref mewn i lety dros dro yn ystod mis Medi, a oedd yn gynnydd o 176 ar fis Awst, gan ddod â'r cyfanswm mewn llety dros dro, fel rydyn ni wedi clywed, i oddeutu 7,000 o bobl. Roedd bron i 280 ohonyn nhw'n blant dibynnol o dan 16 oed, gan ddod â'r cyfanswm o blant dibynnol mewn llety dros dro i 1,700. Serch hynny, symudwyd llai na 500 o bobl ddigartref i lety hirdymor addas, 52 yn llai nag ym mis Awst, ac o'r unigolion a gafodd llety hirdymor addas, roedd 152 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 19 o fis Awst.

Dyna'r darlun o ddigartrefedd yng Nghymru heddiw, a dydy o ddim yn un hardd. Ond, mae yna resymau am hynny, fel rydyn ni wedi'i glywed. Dwi'n siŵr y buasech chi'n cytuno na all un gymdeithas honni i fod yn gymdeithas wâr a theg tra bod pobl yn methu cael to uwch eu pennau. Y newyddion da ydy, serch hynny, rhwng dechrau'r pandemig a diwedd Medi eleni, cafodd dros 15,000 o bobl a oedd gynt yn ddigartref gymorth i lety dros dro brys. Mae'n rhaid yma heddiw llongyfarch y gweithwyr diwyd hynny yn ein hawdurdodau lleol a'r elusennau cymorth yna sydd wedi gweithio yn ddiflino i gartrefi'r bobl yma. Ond mae hyn yn dangos graddfa'r broblem. Dwi'n siŵr bod pawb yma yn rhannu'r uchelgais o ddirwyn digartrefedd i ben, ond os ydyn ni o ddifri am wireddu hyn, yna mae'n rhaid gweld gweithredu radical, gweithredu effeithiol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau. Rydyn ni bellach wedi clywed droeon am y model Ffinnaidd, ac am Housing First, ond rŵan mae'n amser i ddarfod â thrafod theori ac amser gweithredu. Wedi'r cyfan, dewis gwleidyddol ydy digartrefedd, a dewis gwleidyddol ydy ei ddileu.

Mae'r ymrwymiadau a amlinellir yn y cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn uchelgeisiol a phellgyrhaeddol. Mae'r cytundeb yn nodi y dylai digartrefedd fod am gyfnod byr, yn brin ac heb ei ailadrodd. Byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i ddiwygio cyfraith tai, gweithredu'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn rhoi diogelwch i rentwyr, a gweithredu argymhellion y grŵp gweithredu digartrefedd. Dwi'n edrych ymlaen i gydweithio yn y meysydd yma efo chi, Weinidog, er lles pobl Cymru. 

Felly, Llywydd, yn yr ysbryd yna o gydweithio a thrafod i ganfod atebion, hoffwn i'r Gweinidog ateb rhai cwestiynau ynghylch pryderon penodol o ran digartrefedd yma yng Nghymru heddiw, a'r cynllun i roi terfyn ar ddigartrefedd. Mae cysgu ar y stryd ymhlith y dangosyddion mwyaf eithafol ac amlwg o ddigartrefedd, sydd ei hun yn ddangosydd o'r argyfwng tai yn ehangach. Dyma'r math mwyaf peryglus o ddigartrefedd. Er bod y pandemig wedi dangos fod posib gweithredu yn wahanol mewn amser byr iawn, mae yna lawer iawn mwy i'w wneud, gyda'r data diweddaraf yn dangos cynnydd mewn pobl sy'n cysgu ar y stryd yma yng Nghymru. Pa sicrwydd, Gweinidog, allwch chi roi i ni y bydd y mater o gysgu ar y stryd yn cael ei wneud yn beth sy'n perthyn i'r gorffennol, a hynny ar frys? Hefyd, a all y Gweinidog amlinellu pa gymorth penodol y bydd y Llywodraeth yn ei gynnig i bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru? Gall cymorth o'r fath gynnwys adnabod pawb sy'n cysgu ar y stryd yn sydyn, a'u helpu am gyhyd ac mae'n ei gymryd er mwyn dod o hyd i gartref, gan gynorthwyo gyda blaendaliadau i'w helpu i gael tai diogel ac addas, yn hytrach nag ateb dros dro. Mae angen ymgorffori dull tai yn gyntaf ledled Cymru. 

Mae adroddiadau'r grŵp gweithredu digartrefedd yn nodi bod gwasanaethau cyhoeddus y tu hwnt i'r adrannau tai yn aml yn dod i gysylltiad â phobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd, a hynny yn gynnar cyn i'r gwasanaethau tai a digartrefedd ddod ar eu traws nhw. Rhaid edrych felly yn agosach i lygad y ffynnon, upstream, er mwyn adnabod pobl ynghynt, megis ymyriadau a wnaed yn y sector iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a chyfiawnder troseddol, er enghraifft. Weinidog, pa waith penodol sydd ar y gweill i gryfhau eich gwaith ataliol i fynd i'r afael â digartrefedd yn hyn o beth, fyny yn agosach i lygad y ffynnon, fel petai? 

A hoffwn orffen drwy sôn am gyflwyno cynllun prydlesu Cymru yn genedlaethol—rydych chi wedi sôn amdano eisoes, wrth gwrs. Fe sonioch y bydd perchnogion eiddo yn cael eu hannog i brydlesu eu heiddo i awdurdodau lleol yn gyfnewid am warant rhent a chyllid ychwanegol i wella cyflwr yr eiddo. Dwi am wybod mwy am hyn a sut y gall hyn weithio yn ymarferol, os gwelwch yn dda. Pwy fydd yn annog y perchnogion eiddo i gymryd rhan, a sut fydd hynna'n digwydd? Faint o arian ychwanegol fydd yn cael ei ddyrannu er mwyn gwella cyflwr y tai? A fydd yr arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i redeg y cynllun yma? A pa wersi ddaeth o'r cynllun peilot ddaru chi sôn amdano, a sut fydd y gwersi hyn yn llywio eich dull gweithredu yn edrych ymlaen? Diolch yn fawr iawn.