Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Llywydd, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell y dylai'r rhaglen frechu gael ei chyflymu ar ôl i'r amrywiolyn newydd hwn ddod i'r amlwg. Dwi wedi derbyn cyngor y cyd-bwyllgor, a dwi’n ategu geiriau ei gadeirydd, sydd wedi dweud y gwelwn y budd mwyaf os gallwn frechu pobl cyn i don arall daro. Byddwn yn ymestyn y rhaglen atgyfnerthu i bob oedolyn rhwng 18 a 39 mlwydd oed, ac yn lleihau'r bwlch rhwng yr ail ddos a'r pigiad atgyfnerthu o chwech i dri mis. Byddwn yn parhau i frechu pobl yn nhrefn eu risg—bydd pobl hŷn neu bobl sy’n fregus yn glinigol yn cael eu galw yn gyntaf. Byddwn yn cynnig dos atgyfnerthu i bobl sydd ag imiwnedd gwan, a hynny dri mis ar ôl iddyn nhw gael eu trydydd dos sylfaenol. Bydd pob plentyn o 12 i 15 oed hefyd yn gymwys i gael ail ddos. Nod y strategaeth hon yw achub bywydau, diogelu'r gwasanaeth iechyd a lleihau heintiau cyn belled â bo modd.
Bydd ehangu'r broses o gyflwyno'r rhaglen frechu yn heriol. Rŷn ni’n dibynnu ar weithlu ein gwasanaeth iechyd i ymateb ar frys unwaith eto i’r pandemig er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Maen nhw wedi gwneud cymaint yn barod drwy gydol y pandemig. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r holl staff iechyd a gofal sydd wedi gweithio mor galed, ac i'r timau brechu sy'n cynllunio’r gwaith o ehangu'r rhaglen hanfodol hon. Byddwn yn parhau i gynnig brechlynnau i bobl sydd heb eu brechu neu sydd efallai ond wedi cael un dos. A dwi eisiau ei gwneud hi’n hollol glir: dydy hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.
Dirprwy Lywydd, mae’n bwysicach nag erioed pob un ohonom ni yn cydweithio i amddiffyn ein teuluoedd a'r rhai sy’n annwyl i ni. Yn ogystal â'n rhaglen frechu, mae angen i ni ddal ati i wneud y pethau bychain a fydd yn ein cadw'n fwy diogel drwy'r pandemig: hunanynysu a chael prawf os oes gyda ni symptomau, cymryd profion llif unffordd yn rheolaidd, yn enwedig cyn mynd allan i lefydd prysur, cwrdd â phobl yn yr awyr agored os yn bosibl, cadw ein pellter pan allwn ni, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb.
Mae hwn yn gyfnod pryderus ac, wrth gwrs, rŷn ni i gyd yn gobeithio na fydd y pandemig yn bwrw cysgod dros y Nadolig. Rŷn ni’n gwybod bod pawb wedi blino’n lân ar y pandemig. Mae pawb eisiau i hyn ddod i ben. Ond, mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i ofalu am ein gilydd unwaith eto. Mae’r sefyllfa yn symud yn gyflym, ac rŷn ni’n monitro’r sefyllfa yn ofalus. Os bydd tystiolaeth yn awgrymu bod angen inni gymryd camau pellach i amddiffyn pobl, byddwn ni’n gwneud hynny. Dydyn ni ddim eisiau gwneud bywydau pobl yn anodd i bobl, ond byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i ddiogelu pobl Cymru. Diolch.