6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 30 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:34, 30 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Rwyf innau hefyd yn croesawu y strategaeth Cymru o blaid pobl hŷn—beth nad oes i'w hoffi amdano mewn gwirionedd—ar wahân i'r ffaith bod gennym ni strategaeth arall sy'n llawn dyheadau ond heb fawr o fanylion ynghylch sut y byddwn ni'n cyflawni'r strategaeth honno neu'r targedau hynny i fesur ein cynnydd yn eu herbyn. Pryd y byddwn ni'n gweld cynllun gweithredu a thargedau y mae modd eu cyflawni? Dylem ni fod â Chymru sydd o blaid pobl hŷn heddiw, nid mewn rhyw amserlen sydd eto i'w phenderfynu. Mae angen gweithredu ar bobl hŷn yng Nghymru, yr union rai a helpodd i lywio eich strategaeth nawr, nid mwy o bwyllgorau, paneli gweinidogol neu grwpiau ffocws eto.

Yn ystod yr wythnosau ar ôl cyhoeddi eich dogfen, Dirprwy Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddilyn polisïau nad ydyn nhw o blaid oedran. Gwnaethoch chi gyflwyno pasbortau brechlyn ar gyfer theatrau a sinemâu, ac eto mae pobl hŷn yn ei chael hi'n anodd cysylltu ar y llinell a gafodd ei sefydlu i gyflenwi tocynnau papur i'r rhai nad oes ganddyn nhw ffôn clyfar. Ddoe, cyhoeddodd eich Llywodraeth y byddai, o heddiw ymlaen, yn ychwanegu'r statws brechlyn atgyfnerthu i'r pasbortau brechlyn, ond mae pobl hŷn sy'n dymuno teithio dramor i ymweld ag anwyliaid dros y Nadolig yn anlwcus oherwydd na fydd y statws yn cael ei ychwanegu at docynnau papur tan rywbryd ym mis Ionawr. A yw hon yn Llywodraeth Cymru sydd o blaid pobl hŷn?

Pam felly bod pobl hŷn yn treulio llawer hirach yn ein hadrannau Damweiniau ac Achosion Brys? Yr amser aros cyfartalog mewn adran damweiniau ac achosion brys i'r rhai dros 85 oed yw saith awr a 47 munud—bron ddwywaith yr arhosiad targed. Dirprwy Weinidog, rydych chi'n dweud bod eich strategaeth yn cael ei llywio gan egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, ond rydych chi wedi gwrthod cefnogi fy ngalwadau i i ymgorffori'r egwyddorion hyn mewn dull sy'n seiliedig ar hawliau o gynnal gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru, felly ni allwch chi ddweud un peth ac yna pleidleisio yn ei erbyn yn ymarferol.

Yn y 10 i 15 mlynedd nesaf, bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd yn tyfu dros draean. A ydych chi'n credu y gall eich Llywodraeth ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal a all ddiwallu'r angen cynyddol hwn? Dirprwy Weinidog, pan ddaw'n fater o iechyd a gofal yng Nghymru, dylem ni fod yn gwario tua £1.18 am bob punt sy'n cael ei wario yn Lloegr i ddiwallu anghenion ychwanegol ein poblogaeth hŷn, ond mae ffigurau diweddar gan Archwilio Cymru yn dangos bod gwariant tua £1.05. A fyddwch chi'n annog y Gweinidog cyllid i gynyddu gwariant ar iechyd a gofal yn aruthrol er mwyn cyflawni'r amcanion sydd wedi'u nodi yn eich strategaeth?

Dirprwy Weinidog, prif elfennau eich strategaeth heneiddio yw galluogi pobl hŷn i gymryd rhan a lleisio eu barn. Mae ein poblogaeth hŷn wedi teimlo effeithiau pandemig COVID-19 i'r byw yn fwy nag unrhyw ran arall o'n cymuned. A ydych chi felly'n cytuno â fy mhlaid i—a'r comisiynydd pobl hŷn nawr—fod angen ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru arnom ni i ymdrin â'r pandemig hwn? Mae Mrs Herklots yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,

'Bydd cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus sy'n benodol i Gymru yn sicrhau bod y Cadeirydd a'r panel sy'n cynnal yr Ymchwiliad yn deall datganoli a natur unigryw ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru, yn ogystal â bod yn gynrychioliadol o amrywiaeth ein cenedl ac yn hygyrch mewn ffordd na all Ymchwiliad ledled y DU ei gyflawni.'

Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud,

'Bydd hyn yn hollbwysig os ydym ni eisiau clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn a'u hanwyliaid, y bydd llawer ohonyn nhw wedi colli rhywun, ac yn rhoi cyfle i'w hanesion nhw gael eu clywed. Bydd galluogi pobl i rannu eu profiadau a lleisio eu barn yn rhan sylfaenol o ymchwiliad, a bydd yn rhan o'n hadferiad ar y cyd o'r cyfnod mwyaf dinistriol hwn.'

A ydych chi'n cefnogi'r farn hon, Dirprwy Weinidog, ac a ydych chi'n cytuno bod peidio â chynnal ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru yn peryglu colli cyfleoedd posibl i wneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy cadarn a chynaliadwy? Dirprwy Weinidog, edrychaf ymlaen at weld eich cynllun cyflawni ac rwyf i'n cefnogi eich dyheadau, ond mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn dod yn fwy na hynny. Mae angen mwy na geiriau cynnes ar bobl hŷn yng Nghymru. Diolch.