Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch. Cafodd 'Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio' ei chyhoeddi ar 7 Hydref, yn dilyn rhaglen helaeth o ymgysylltu â phobl hŷn a'u cynrychiolwyr. Mae'r strategaeth yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda. Mae'r strategaeth yn herio stereoteipiau, sy'n rhagfarnllyd ar sail oedran, o bobl hŷn fel derbynwyr goddefol iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n pryderu y gallai'r pandemig fod wedi helpu i ymwreiddio stereoteipiau o'r fath ym meddyliau pobl. Mae'n rhy hawdd anwybyddu'r ffyrdd niferus y mae pobl hŷn yn cefnogi ein cymunedau i ffynnu.
Ni ddylem ni anghofio mai eu partneriaid, brodyr neu chwiorydd neu gymdogion, sydd yn aml yn hŷn eu hunain hefyd, sy'n gofalu am lawer o bobl hŷn sy'n byw gyda dementia, neu fod llawer o oedolion sy'n gweithio yn dibynnu ar neiniau a theidiau am ofal plant. Yn sicr, daeth gwerth gwirfoddolwyr hŷn i'r amlwg yn ystod y pandemig, gan fod llawer o elusennau'n ei chael hi'n anodd ymdopi heb eu cefnogaeth. Cyn COVID-19, yr amcangyfrif oedd bod cyfraniad pobl hŷn i economi Cymru dros £2 biliwn y flwyddyn.
Nod y strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio yw newid y ffordd yr ydym ni i gyd yn meddwl ac yn teimlo am heneiddio. Rydym ni eisiau creu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn, Cymru lle gall unigolion gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u lles eu hunain gan deimlo'n hyderus y bydd cymorth ar gael ac yn hawdd ei gyrraedd os oes ei angen.
Diolch i ddatblygiadau arloesol ym maes iechyd a thechnoleg, mae'r boblogaeth fyd-eang o bobl dros 60 oed wedi bod yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw grŵp oedran arall, ond dangosodd y pandemig pa mor hawdd y mae modd i'r enillion hyn gael eu dileu. Dangosodd hefyd pa mor bwysig yw hi fod gwahanol genedlaethau'n deall ei gilydd, fel y gallan nhw ddod at ei gilydd ar adegau o argyfwng a chwarae i'n cryfderau fel cymunedau cryf a bywiog ledled Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth ar draws cenedlaethau, sectorau a chymunedau yn hanfodol i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.
I wireddu'n gweledigaeth eleni, rydym ni wedi dyrannu £550,000 i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i fod yn sefydliadau sy'n cefnogi pobl hŷn ac i ennill aelodaeth o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o ddinasoedd a chymunedau sy'n cefnogi pobl hŷn. Er mwyn ennill aelodaeth, rhaid i awdurdodau lleol ddangos sut maen nhw'n ymgysylltu â phobl hŷn. Mae ein gweledigaeth ni'n cael ei rhannu â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n darparu cymorth ac arweiniad gwerthfawr i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw weithio tuag at statws sydd o blaid pobl hŷn.
Mae egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon ac wedi bod yn rhan ohono drwyddi draw. Rwyf i eisiau i Gymru fod yn genedl sy'n dathlu oedran ac, yn unol ag egwyddorion y Cenhedloedd Unedig, cenedl sy'n cynnal annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunan-foddhad ac urddas pobl hŷn bob amser. Eleni, byddwn ni'n dyrannu £100,000 i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o effeithiau trawsnewidiol dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau.
Rydym ni'n ffodus bod gennym ni ddealltwriaeth gadarn o amgylchiadau pobl hŷn yng Nghymru. Yn 2019, gwnaethom ni gomisiynu'r Ganolfan am Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol i feincnodi sefyllfa pobl hŷn yng Nghymru o'i chymharu â thair gwlad arall y DU. Cafodd y mesur hwn ei ddiweddaru yn 2021. Defnyddiodd y ganolfan amrywiaeth o fesurau i greu mynegai oedran y DU ac mae'r canlyniadau'n dangos bod Cymru ar y brig, gyda'r sgôr gyffredinol uchaf, ac yna'r Alban, Lloegr ac yn olaf Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn dangos bod llawer yr ydym ni'n ei wneud yn dda, a dylem ni deimlo'n falch bod tystiolaeth glir o'n hymrwymiad i gefnogi pobl hŷn.
Yn ogystal, mae adroddiadau Cyflwr y Genedl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2019 a 2021 yn cynnig sylfaen ystadegol ac empirig gadarn i'w datblygu, sy'n nodi effaith COVID-19. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau hyn yn rhoi syniad clir o ble mae angen gweithredu i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.
Mae pobl hŷn wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chreu'r strategaeth hon a byddan nhw'n ymwneud â'i chyflawni drwy fy fforwm cynghori gweinidogol ar heneiddio. Byddwn ni'n rhoi llais a phrofiad pobl hŷn wrth wraidd ein proses bolisi ac yn parhau i gefnogi pum grŵp a fforwm cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn, wedi'u cynnal gan Age Cymru. Gyda'i gilydd, mae eu gwaith yn ein helpu ni i ddeall ac ymateb i'r materion allweddol sy'n effeithio ar bobl hŷn heddiw.
Byddwn ni'n gweithio ledled y Llywodraeth i ymdrin â'r amrywiaeth eang o ffactorau sy'n dylanwadu ar sut yr ydym ni'n heneiddio, o'n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i'r ffordd yr ydym ni'n cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Nod y strategaeth yw datgloi potensial pobl hŷn heddiw a chymdeithas sy'n heneiddio yfory. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu cynllun cyflawni sy'n nodi camau gweithredu, cerrig milltir ac amserlenni clir i fonitro gweithrediad y strategaeth.
Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â sut yr ydym ni'n edrych i'r dyfodol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth gadarn—strategaeth wedi'i datblygu gyda phobl Cymru ac ar eu cyfer. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau holl bobl hŷn Cymru, gallwn ni wrthod rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.