Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dydd Gwener yma yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Ym 1992, dynododd y Cenhedloedd Unedig y trydydd o Ragfyr yn ddiwrnod ar gyfer hyrwyddo hawliau a lles pobl anabl ac i ddathlu eu cyflawniadau ledled y byd. Y thema ar gyfer 2021 yw 'brwydro dros hawliau yn y cyfnod ar ôl COVID', ac mae hwn yn achos y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn iddo.
Does dim dwywaith fod pobl anabl ymhlith y rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig. Mae wedi amlygu nifer o'r anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio'n ddwfn a chadarn y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn ein cymdeithas. Mae llawer o bobl anabl wedi gorfod wynebu unigedd, datgysylltedd, amharu ar eu harferion a llai o wasanaethau, sydd heb os wedi effeithio ar eu lles meddyliol a'u bywydau. Mae hefyd yn ffaith ofnadwy bod chwech o bob 10 marwolaeth sy'n gysylltiedig â COVID, ledled y DU, yn bobl anabl. Nid oedd llawer o'r marwolaethau hyn yn ganlyniad anochel syml i nam, a llawer o farwolaethau wedi'u gwreiddio'n glir mewn ffactorau economaidd-gymdeithasol. Heddiw, rwyf nid yn unig yn ailadrodd bod y Llywodraeth hon yn cydnabod yr anghydraddoldebau hyn, ond ein bod yn gadarn yn ein penderfyniad i fynd i'r afael â nhw ac wedi cymryd camau sylweddol i wneud hynny.
Gwyddoch o'm diweddariadau blaenorol fod y Llywodraeth, drwy gydol y pandemig, wedi cyfarfod yn rheolaidd i drafod a mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru. Arweiniodd rhan o'r trafodaethau hyn at gomisiynu a chyhoeddi'r adroddiad arloesol 'Drws ar Glo', adroddiad a daflodd oleuni clir ar yr annhegwch amlwg sy'n wynebu pobl anabl ac sydd wedi ein galluogi i gymryd y cam nesaf hanfodol o ffurfio'r tasglu hawliau anabledd, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn o ddweud bod cyfarfod cyntaf y tasglu hawliau anabledd, a gadeiriwyd gennyf i a'r Athro Debbie Foster, wedi'i gynnal ar y deunawfed o'r mis hwn. Yn bresennol roedd pobl anabl oedd ag arbenigedd a phrofiad o'u bywydau eu hunain, ynghyd â sefydliadau o bob rhan o Gymru. Ailddatganwyd y penderfyniad i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn yr adroddiad 'Drws ar Glo' a thu hwnt i hynny.
Byddai'n esgeulus ohonof i beidio ag oedi yma am eiliad a diolch ar goedd i'r holl unigolion a ddaeth â ni i'r pwynt yma. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i holl aelodau'r grŵp llywio a'r Athro Debbie Foster, a luniodd yr adroddiad 'Drws ar Glo'. Hoffwn ddiolch iddynt am eu dycnwch a'u dyfalbarhad nid yn unig wrth lunio'r adroddiad hwn ond hefyd i sicrhau ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i bob aelod o'r tasglu a'r rhai a weithiodd i'w wneud yn bosibl. Gwyddom mai dim ond y dechrau yw hyn, ac eto gwyddom hefyd ein bod yn benderfynol o'n diben.
Ffurfiwyd y tasglu hwn i'n helpu i archwilio a gweithredu argymhellion yr adroddiad 'Drws ar Glo', ond, yn fwy na hynny, bydd angen iddo sicrhau bod pobl anabl yn gallu mwynhau'r holl fanteision a hawliau y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol. Bydd y tasglu hawliau anabledd yn cydweithio, gyda pharch ar y naill ochr a'r llall, i greu cynllun gweithredu hawliau anabledd newydd i Gymru. Bydd hyn yn adeiladu ar y fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw'n annibynnol'. Gyda hyn, gallwn osod y sylfeini ar gyfer Cymru wirioneddol gynhwysol, a hynny mewn modd cadarnhaol.
Yn hollbwysig, deallwn y gall fod bylchau wrth ddatblygu unrhyw bolisi ac anghenion a dyheadau'r bobl y bwriedir iddo eu cefnogi. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym wedi bod yn glir y bydd y tasglu yn rhoi lleisiau pobl anabl wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Bydd y cyfuniad o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd y tasglu yn allweddol wrth adnabod y rhesymau sylfaenol dros wahaniaethu a'r anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny, a'r camau gweithredu tymor byr, canolig a hirach sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw.
I nodi'r diwrnod rhyngwladol hwn, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd. Gwyddom mai gwerthoedd, arferion, strwythurau, polisïau cymdeithasol ac economaidd ein cymdeithas a'r amgylcheddau adeiledig sy'n anablu pobl. Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i ddeall a chymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain a sicrhau nad dyma'r ffordd yr ydym ni'n parhau i weithredu. Mae ein gwaith, a gwaith y tasglu, wedi'i seilio ar ymrwymiad clir i'r model cymdeithasol o anabledd, ac rydym ni wedi ymrwymo i ymgorffori'r model cymdeithasol, yn ogystal â hawliau dynol, yn ein meddylfryd yn ogystal ag yn ein polisïau a'n harferion. Yn rhan o'r ymrwymiad hwn, byddwn yn sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar y model cymdeithasol o anabledd i sicrhau bod hyn yn rhan annatod o waith y tasglu a sut y bydd yn gweithredu.
Wrth gwrs, rydym ni wedi gwneud cynnydd ar nifer o feysydd polisi ac rwy'n falch iawn bod ein cronfa mynediad i swyddi etholedig yn dal yn weithredol ac yn barod i gefnogi mwy o bobl anabl i sefyll etholiad, i gynyddu cynrychiolaeth, cyfranogiad ac i gefnogi eu cymunedau. Rwyf hefyd yn falch ein bod yn cwblhau dewisiadau ar gyfer uned data a thystiolaeth cydraddoldeb yng Nghymru. Bydd yr uned hon yn sicrhau bod gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yr wybodaeth orau wrth law am bobl â nodweddion gwarchodedig, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl anabl. Rydym ni hefyd yn croesawu ein hyrwyddwyr cyntaf ym maes cyflogi pobl anabl. Mae'r hyrwyddwyr hyn yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithlu sy'n gynrychioliadol ac yn agored i bawb.
Fel nodyn terfynol, Dirprwy Lywydd, mae'r cytundeb cydweithio a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, sy'n dechrau'r wythnos hon, yn dweud y byddwn, drwy gydweithio, ac rwy'n dyfynnu, yn:
'Cryfhau hawliau pobl anabl a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y maent yn parhau i’w hwynebu. Rydym wedi ymrwymo i’r model cymdeithasol o anabledd, a gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau llwyddiant y Tasglu Anabledd a sefydlwyd i ymateb i’r adroddiad Drws ar Glo.'
Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru i ddatblygu a goruchwylio'r broses o gyflawni gwaith yn y maes hwn dros y tair blynedd nesaf.
Felly, diolch eto i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y cam hollbwysig hwn. Rwy'n ffyddiog, pan fyddwn ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y tro nesaf, y byddwn yn gwneud hynny o sefyllfa gryfach nag erioed. O'r sylfeini cadarn yr ydym ni wedi'u gosod gyda'n gilydd, byddwn yn gallu adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy llewyrchus.