Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch i fy nghyd-Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac rydych yn llygad eich lle—mae twf esbonyddol y ddyled yn ychwanegu at y pwysau gwirioneddol ar y teulu penodol hwnnw.
Yr ail syniad, unwaith eto, y gellir ei ystyried o bosibl yn syniad sosialaidd, iwtopaidd, yw incwm sylfaenol cyffredinol, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth Lafur i hyn. Ond hoffwn hefyd ei gweld yn mynd ymhellach ac yn ei ymestyn y tu hwnt i'r trefniant arfaethedig ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Incwm sylfaenol cyffredinol yw gwasanaeth iechyd gwladol y genhedlaeth hon. Ac fel y GIG ym 1946, pan bleidleisiodd Torïaid Winston Churchill yn ei erbyn 21 gwaith, rydym yn dal i weld gwrthwynebiad parhaus i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol er mwyn rhoi cyfle i bawb gael lefel incwm sylfaenol, sy'n sicrhau y gallant fwydo eu plant, sy'n sicrhau y gallant wresogi eu cartrefi, sy'n sicrhau urddas iddynt yn eu bywydau. Dywedodd Churchill ym 1946 mai GIG oedd y cam cyntaf i Brydain ddod yn economi sosialaidd genedlaethol. Mae'r incwm sylfaenol cyffredinol sydd wedi'i argymell yn un y byddwn yn erfyn eto ar bawb i wrando arno, pawb i ddysgu amdano. Cyn i chi ei gondemnio, edrychwch ar y dystiolaeth i weld sut y mae'n mynd i'r afael o ddifrif â thlodi.
I gloi, hoffwn weld llawer o syniadau'n cael eu mabwysiadu i gefnogi pobl sydd mewn dyled. Ni allwn barhau fel hyn. Ac mae'r pandemig, fel rydym wedi'i weld a'i glywed, wedi rhoi hyd yn oed mwy o bobl yn y sefyllfa hon. Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn, a hoffwn gloi hefyd gyda gair am y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain, sydd, yn fy marn i, wedi rhoi mwy fyth o bobl mewn dyled drwy ddiddymu'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol. Cefnogwch y cynnig hwn os gwelwch yn dda.