8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:03, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Er bod y pandemig wedi bod yn anodd i sawl rhan o'r gymdeithas, mae pobl hŷn wedi dioddef mwy na'r rhan fwyaf. Mae bygythiad cynyddol y coronafeirws i'w hiechyd wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd, gan effeithio'n drwm ar iechyd meddwl a chorfforol pobl hŷn. Mae'r cwymp economaidd hefyd wedi cael effaith fawr ar bobl hŷn. Ers dechrau'r pandemig, mae 24 y cant o weithwyr rhwng 60 a 64 oed wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, wedi colli oriau a/neu eu cyflog, ac wedi colli eu swyddi'n llwyr o bosibl. Pan fydd gweithwyr hŷn yn colli eu swydd, gwyddom eu bod yn aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith o'i gymharu â phobl iau. Mae'n realiti trist na fydd rhai rhwng 50 a 60 oed sy'n colli eu swyddi yn ystod y pandemig byth yn dod o hyd i swydd arall cyn cyrraedd oedran ymddeol y wladwriaeth o bosibl, gan gynyddu lefelau tlodi ar ôl ymddeol. Amcangyfrifir eisoes fod un o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol—ffigur sydd wedi bod yn codi dros y blynyddoedd diwethaf ac a allai gynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.

I waethygu pethau, nid yw credyd ar gael mor hawdd i bobl hŷn. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gyfarwydd ag ef oherwydd fy mhrofiad ym maes bancio adwerthol. Caiff y rheolau eu llunio fel bod pobl hŷn yn aml yn methu cael benthyciadau y gallai fod eu hangen arnynt i dalu costau annisgwyl. O ganlyniad, mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i fynd heb neu droi at fenthycwyr diegwyddor sydd â chyfraddau llog uchel.

Un o'r prif anfanteision i incwm aelwydydd a fydd yn taro pobl hŷn yn anghymesur yw'r codiadau eithafol mewn biliau cyfleustodau. Rhwng mis Ionawr a mis Hydref, cododd prisiau nwy yn y DU 250 y cant, yn ôl y grŵp diwydiant Oil and Gas UK. Mae methiant Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i adeiladu capasiti dros ben a chynlluniau wrth gefn ar gyfer cynnydd sydyn ym mhrisiau nwy cyfanwerthol wedi achosi anhrefn yn y farchnad ynni. Mae wedi gwneud pobl yn agored i effeithiau gwaethaf y farchnad. Yn gyffredinol, mae angen pobl hŷn am gynhesrwydd yn fwy yn ystod y gaeaf, o'i gymharu â phobl iau, sy'n golygu y bydd prisiau ynni'n cael mwy o effaith ar gyllideb yr aelwyd. Credir bod 67,000 o aelwydydd hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Gwyddom fod byw mewn cartrefi oer, llaith yn niweidiol i iechyd unrhyw un. Mae hyn yn bryder arbennig i bobl hŷn wrth i'r gaeaf nesáu ac yn sgil canfod amrywiolyn COVID newydd. Rhaid inni sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn mynd heb wres, oherwydd bydd yn cynyddu eu risg o gael clefydau anadlol a chlefydau'r galon a chylchrediad y gwaed.

Hoffwn i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU a chyflenwyr ynni i sefydlu llinell sylfaen o gymorth ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion. Dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi hefyd mewn ymgyrch proffil uchel i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn. Yn 2018-19, roedd cyfanswm y credyd pensiwn na chafodd ei hawlio yn £214 miliwn. Ar wahân i'r arian ychwanegol, mae hawlio'r credydau hyn yn datgloi amrywiaeth o hawliau eraill, megis gostyngiadau'r dreth gyngor, gofal deintyddol am ddim a chymorth gyda chostau tai. Pe gallai'r Llywodraeth wneud hyn, gallai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl hŷn. Diolch yn fawr.