Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Soniodd hefyd sut y caiff credyd ei wrthod yn aml i bobl hŷn a sut, mewn gwirionedd, y gall pobl, oherwydd eu hamgylchiadau, gael eu heffeithio hyd yn oed yn waeth. Diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad a'i gwybodaeth ddiweddaraf am rai o'r ffyrdd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu ar hyn. Rwy'n croesawu'r newyddion am yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Byddai'n well gennyf weld budd-daliadau'n cael eu talu'n awtomatig, ond rwy'n croesawu'r newyddion fod mwy o hysbysrwydd i bobl ynglŷn â'r hyn y mae ganddynt hawl i'w hawlio. Un o'r pwyntiau cryfaf sydd wedi codi dro ar ôl tro yn y ddadl hon, rwy'n meddwl, yw sut y gall amgylchiadau wthio unrhyw un i ddyled. Mae COVID a biliau cynyddol wedi gwneud dyledion pobl yn fwy difrifol, ond roedd aelwydydd ledled Cymru eisoes yn ymladd yn ddyddiol i allu fforddio cadw'r gwres ymlaen, gan dorri'n ôl ar y peth hwn, mynd heb y peth arall; pobl yn ei chael hi'n anodd gwario digon, nid ar ormodedd, ond ar ddim ond bodoli.
Yn The Sun Also Rises gan Hemingway, mae dau gymeriad yn sôn am fethdaliad ac mae un ohonynt yn gofyn i'r llall, 'Sut aethoch chi'n fethdalwr?' Mae'r llall yn ateb ei fod wedi digwydd mewn dwy ffordd: yn raddol, yna'n sydyn. Ac rwy'n credu bod hynny, Lywydd, yn crynhoi arswyd unrhyw ddyled: proses sydd wedi bod ar fin digwydd cyhyd, ac yna mae rhywbeth yn ei wthio dros yr ymyl—yr argyfwng annisgwyl, esgidiau newydd, siec gyflog nad yw'n cyrraedd, angladd. Ac yn y ddadl hon am ddyled, rydym wedi sôn am y pethau sydyn, onid ydym? Yr argyfwng biliau ynni a'r panig enfawr a achosodd; y pandemig sydd wedi creu trafferthion ym mhob agwedd ar fywyd, bron iawn; y toriad creulon i gredyd cynhwysol; gwthiodd pob un o'r pethau sydyn hyn fwy o bobl i dlodi. Ond mae pethau graddol hefyd yn achosi tlodi: yr elfennau parhaus, ysgeler sy'n cadw pobl ar ymyl y dibyn i ddistryw bob dydd; y farchnad ynni sydd gennym sy'n trosglwyddo elw di-risg i gyfranddalwyr ac yn gwthio prisiau i fyny i'r bobl sydd angen eu cynnyrch er mwyn gallu byw; y system fenthyca sy'n caniatáu i fanciau fenthyca i'w gilydd ar gyfraddau llog negyddol bron, ond sy'n gorfodi'r fam ofidus i dalu drwy ei thrwyn; systemau sy'n sicrhau i bob pwrpas fod yn rhaid cael collwyr. Mae economegwyr libertaraidd yn honni y bydd y farchnad bob amser yn darparu, ond nid ydynt yn manylu ar yr hyn y byddant yn ei ddarparu. I deuluoedd ar y gwaelod, ni all y farchnad rydd ddilyffethair ddarparu dim heblaw dioddefaint, a byw gyda'r ansicrwydd hwn, y bygythiad cyson o dlodi, sy'n llesteirio. Mae'n creu trawma cyson. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi canfod bod gan un o bob dau oedolyn sydd mewn dyled broblem iechyd meddwl, boed hynny wedi'i ysgogi gan euogrwydd, arwahanrwydd, pryder, anobaith. Canfu ymchwil yn 2018 fod pobl sy'n profi dyledion problemus dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi ystyried cyflawni hunanladdiad.
Lywydd, mae strwythurau ein cymdeithas yn caniatáu i hyn barhau. Maent yn cynnwys y boen a'r anobaith yn y pris—yn raddol, yna'n sydyn. Arferai Adam Smith sôn am law anweledig y farchnad, ond fel rwy'n gobeithio bod y ddadl hon wedi dangos, i'r tlawd yn ein cymuned, mae'r llaw anweledig honno'n ddwrn llawer rhy weladwy sy'n eu gwasgu'n ddyfnach i anobaith a chyni. Ni ddylai neb fod mewn dyled am eu bod yn ei chael hi'n anodd goroesi. Ac rwyf am orffen gyda chymal olaf ein cynnig: yr angen i gyflwyno mesurau a fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i atal dyled. Oherwydd nid yw rheoli dyled pan fydd wedi digwydd yn cael gwared ar drawma neu drasiedi. Cefnogi pobl gydag urddas a pharch ac atal y niwed hwnnw rhag digwydd—dyna sut y dylai cymdeithas wâr weithredu, ac mae'n gynnig ac yn egwyddor rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr.