8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:53, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Yn ei sylwadau agoriadol, dangosodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, sut y mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu gwthio i dlodi a dyled. Mae'r gair 'gwthio' hwnnw'n bwysig, oherwydd yn rhy aml clywn rai gwleidyddion yn trafod tlodi fel pe bai'n ddewis, neu'n rhywbeth sy'n digwydd i bobl oherwydd eu gweithredoedd eu hunain. Ac er bod dyled yn broblem bersonol sy'n achosi gofid enfawr i'r unigolyn neu'r teulu sy'n wynebu caledi economaidd, credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod heddiw ei bod yn broblem gymdeithasol sy'n galw am weithredu gan bob un ohonom. I ormod o bobl sy'n byw yn ein cymunedau, nid yw'r dyfyniad a ddarllenodd Sioned am dlodi ar lefelau oes Fictoria yn gor-ddweud neu'n gor-ddramateiddio'r realiti. Ac yn gynyddol, gwelwn fwy o raniad, gyda mwy a mwy o bobl yn ei chael hi'n anodd sicrhau eu hawl ddynol sylfaenol i fwyd a chartref diogel a chynnes.

Nid yw pobl yn cael eu gwthio fwyfwy i ddyled am eu bod yn prynu pethau moethus. Mae'r bobl sydd wedi dod ataf am gymorth yn bobl sydd wedi gwneud popeth posibl i osgoi mynd i ddyled, ond maent wedi dioddef amgylchiadau y gallai unrhyw un ohonom ni eu hwynebu yn yr un modd, ac mae'r pandemig wedi gwneud hyn yn waeth.

Er ein bod, wrth gwrs, yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol tan ddiwedd mis Mawrth 2022 yn dilyn sylwadau a gyflwynwyd, nid yw hyn yn ddigon i ddatrys yr argyfwng dyled yng Nghymru. Dyna pam ein bod, fel rhan o'n cynnig, wedi argymell y dylid archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i atal dyledion.

Byddai mabwysiadu dull polisi blaengar o reoli dyledion yn gallu gwahardd cyrff cyhoeddus rhag mabwysiadu arferion sy'n cynyddu dyled. Er enghraifft, gellid ei gymhwyso'n dda i awdurdodau lleol a chasglu dyled y dreth gyngor. Wedi'r cyfan, ledled y DU ar hyn o bryd, gwelwyd cynnydd cyflym yng nghroniad dyledion y dreth gyngor, a dyna'r brif broblem ddyled y mae pobl yn cysylltu â'r ganolfan cyngor ar bopeth yn ei chylch. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon, roedd bron i 1 o bob 20 o aelwydydd yng Nghymru ag ôl-ddyledion treth gyngor, ac ym mis Mawrth 2019, roedd dyledion treth gyngor aelwydydd yng Nghymru yn £94 miliwn, ffigur sy'n debygol o fod wedi codi yn ystod y pandemig.

Mae'r dreth gyngor hefyd yn cael ei hystyried yn ddyled flaenoriaethol, gan y gall cynghorau fynd ag unigolion i'r llys os byddant yn methu talu, gydag awdurdodau lleol yn aml yn defnyddio beilïaid i orfodi gorchmynion llys, sy'n gallu achosi straen a phryder sylweddol i'r rhai sydd mewn dyled. Ar ben hynny, gall colli hyd yn oed un taliad treth gyngor olygu bod yn rhaid i unigolyn dalu ei fil blynyddol llawn. Mae hyn, ochr yn ochr â ffioedd cyfreithiol a ffioedd beilïaid o bosibl, yn aml yn golygu bod pobl nad oeddent yn gallu talu eu bil treth gyngor ar y dechrau yn mynd i fwy o ddyled, fel y soniodd Mike Hedges yn ei ymyriad blaenorol yn rhan o'r ddadl hon. Ni ddylai ein cyrff cyhoeddus fod yn gyrru pobl i fwy o ddyled. Yn hytrach, dylem fod yn helpu i atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf, neu rhag iddi fynd yn amhosibl i'w rheoli. Yn y cynnig hwn felly, gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig ac archwilio sut i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus Cymru i leihau dyled.

Yn gynharach yr wythnos hon cyfarfûm â Samariaid Cymru, ac un o'r materion a drafodwyd gennym oedd sut y gall pryderon ariannol yrru rhai pobl i gyflawni hunanladdiad, fel yr adlewyrchir yn nifer y bobl sy'n ffonio'r Samariaid i siarad yn benodol am ddyled. Ac os oes unrhyw un allan yno'n cael trafferth gyda dyled heddiw, gadewch inni anfon neges glir nad ydych ar eich pen eich hunain ac mae cymorth ar gael, ac nad ydym ni yng Nghymru yn derbyn bod tlodi'n anochel nac yn dderbyniol. Gadewch inni uno i sicrhau bod mwy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng dyled aelwydydd a chefnogi'r cynnig hwn heddiw a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn y cymunedau a gynrychiolir gennym.