Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Rwy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gerddoriaeth ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol ddiffuant ar draws y Siambr ar y mater hollbwysig hwn. Ddydd Sadwrn diwethaf, cefais y fraint o gymryd rhan yng nghynhadledd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion lle cynrychiolais y Senedd i drafod addysg cerddoriaeth ar draws y gwledydd datganoledig. Yn wir, mae gennym enw rhyngwladol fel gwlad y beirdd a'r bandiau pres, corau a chymdeithasau corawl, gwlad y gân, hen a newydd, amrywiol a thraddodiadol, ac wedi'i wreiddio'n gryf yn niwylliant y dosbarth gweithiol ac eisteddfodau.
Mae parch i Gymru'n fyd-eang oherwydd rhagoriaeth ein sefydliadau cenedlaethol, megis Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ac rydym yn falch iawn o'n hartistiaid, megis y Fonesig Shirley Bassey, Syr Tom Jones, y Manics, y Stereophonics, Katherine Jenkins, Catrin Finch, Claire Jones a'r brodyr Watkins talentog o Islwyn, a Syr Bryn Terfel wrth gwrs, a'n mawrion o blith yr arweinyddion a'r cyfansoddwyr sydd i'w clywed ar draws yr awyr yn fyd-eang—Syr Karl Jenkins ac Owain Arwel Hughes CBE, i nodi dim ond rhai.
Ond yn awr, mae'n bryd i ni i gyd ymatal rhag hunanfodlonrwydd. Y realiti yn 2021 yng Nghymru yw nad yw plant a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn cael mynediad at gyfleoedd cerddorol a oedd ar gael iddynt ar un adeg. Yn waeth na hynny, yn ôl ein prif sefydliadau a'n mudiadau cerddorol, nid yw disgyblion tlotach yn manteisio ar gyfleoedd cerddorol ac felly y sgiliau angenrheidiol i gyfranogi a chamu ymlaen. Mae hyn yn amlwg yn anghywir. Dylai cerddoriaeth yng Nghymru fod yn hawl i bawb, yn sicr i'n plant a'n pobl ifanc ac yn sicr ni ddylai fod yn ddibynnol ar allu eich teulu i dalu.
Yn anffodus, er gwaethaf amddiffyniadau cyllidol Llywodraeth Cymru, mae cyni wedi taro'r tlotaf oll yn galetach na neb. Rwy'n dadlau bod amddifadu plentyn o fynediad at lwybr addysgol yn gyfystyr ag allgáu diwylliannol ac allgáu economaidd. Mae diflaniad tawel ein gwasanaethau addysgu cerddoriaeth ynddo'i hun yn ddiddymiad tawel. Mae peiriannau meithrin sgiliau offerynnol a thalent ac ymarfer a chynnydd ledled Cymru wedi diflannu i'r nos i raddau helaeth. Er gwaethaf mesurau lliniarol ystyrlon Llywodraeth Cymru, mae mynediad at wersi offerynnol a lleisiol i fyfyrwyr yn gynyddol fynd yn hawl i'r cyfoethog. Dyma'r realiti. Ond y rheswm pam fod Cymru'n gwneud yn well nag y byddai disgwyl iddi ei wneud ym myd creu cerddoriaeth ryngwladol a datblygu talent yw oherwydd yr union wasanaethau hyn nad ydynt bellach yn eu lle yn strategol ac sydd bellach yn cael eu gadael fwyfwy ar gyfer y farchnad.
Ddirprwy Weinidog, rwy'n dadlau mai'r hyn sy'n ein gwneud yn Gymry heddiw yn rhannol yw ehangder a dyfnder ac amrywiaeth y doniau creadigol sydd gennym yng Nghymru a'r cyfraniad y mae cerddoriaeth yn ei wneud i'n sylfaen economaidd yng Nghymru. Mae ei chyfraniadau'n helaeth. Mae cerddoriaeth yn rhan o'n hunaniaeth ddiwylliannol a'n brand Cymru. Mae'n ein gwneud yn gryf ac yn fywiog yn ein hamrywiaeth ac mae'n cyfrannu at ein lles sylfaenol a'n hymdeimlad o hunan. Dros y cyfyngiadau symud, arweiniodd yr ymdeimlad o golled wirioneddol ymhlith corau a bandiau cymunedol at lai o lesiant. A gwelwyd bod hyn yn cyfrannu at iechyd meddwl gwaeth pob grŵp oedran ar draws ein cymunedau a'n lleoliadau addysgol.
Ddirprwy Weinidog, croesawais y cyfle i gomisiynu adroddiad 'Gwlad y Gân' gan yr Athro Paul Carr, a'r gwahanol adroddiadau pwysig a thrawiadol gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Felly, beth yw'r atebion? Dywedodd rhywun wrthyf unwaith nad oes unrhyw broblemau, dim ond atebion. Ac mae gennym yr atebion, yr ewyllys, y modd a'r cyllid. Ddirprwy Lywydd, ar wahanol adegau, rwyf wedi sefyll yn y Siambr hon ac wedi croesawu'n gadarnhaol y mentrau amrywiol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ceisio datrys y sefyllfa. Nawr, heddiw, yn y Siambr, rwy'n nodi bod y sector yn disgwyl gweld gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a chynllun strategaeth newydd yn cael eu cyhoeddi'n gyflym a'u gweithredu'n sydyn. Rwy'n croesawu'r cydweithio strategol a'r cydweithrediad y bu galw amdano ers amser maith rhwng ein sefydliadau celfyddydol mawr a ariennir a chwricwlwm newydd cyffrous Donaldson a meysydd dysgu'r celfyddydau mynegiannol o fewn y cynllun.
Mae addewid maniffesto'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol newydd i Gymru yn ceisio datrys mater y model ariannu yn radical ac mae'n darparu cynnig ansoddol a blaengar a theg ledled Cymru. Rwy'n ddiolchgar fod y grŵp rhanddeiliaid addysg cerddoriaeth wedi cyfarfod yn rheolaidd ers mis Ionawr 2021. Weinidog, fel y nodais yn y Siambr yr wythnos diwethaf, mae cwestiynau pwysig y mae angen mynd i'r afael â hwy. Sef, pryd y caiff y cynllun strategaeth ei gyhoeddi? Pryd y caiff y gwasanaeth newydd ei gyflwyno? Sut yr ariennir y gwasanaeth? Ac yn hollbwysig, a allwch chi fy sicrhau i a llawer o rai eraill heddiw y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu'n briodol? Ein dyletswydd ni yn y lle hwn yw diogelu popeth sydd gennym i'w golli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'r presennol. A chydag effeithiau COVID ar lesiant yn dal i gael eu dioddef yn helaeth, rhaid inni weithio'n gydweithredol ar draws y Llywodraeth i ariannu agenda draws-bortffolio, sy'n hanfodol i'r Gymru rydym am ei gweld: Cymru decach, wyrddach ac iachach, un sy'n chwarae cerddoriaeth ar y llwyfan byd-eang; Cymru greadigol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Diolch.