Y Sector Gweithgareddau Hamdden Egnïol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 1:41, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â Phlas y Brenin, cyfleuster gwych ar gyfer chwaraeon antur a hyfforddiant yng nghanol Eryri, ac mae'n cael ei redeg gan elusen Gymreig, yr Ymddiriedolaeth Hyfforddiant Mynydd. Maent yn edrych am gyllid i wneud eu hadeilad a'u cyfleusterau awyr agored i fod yn gwbl hygyrch i bobl anabl er mwyn cynyddu cynhwysiant ac ehangu'r cynnig. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi'r diwydiant hwn, sydd mor hanfodol i les economaidd a chymdeithasol gogledd Cymru i adfer wedi'r pandemig a thyfu, ac a fyddai modd i chi, Ddirprwy Weinidog, a swyddogion gyfarfod â mi er mwyn archwilio beth y gellir ei wneud i helpu'r cyfleuster gwych hwn i dyfu ac addasu? Diolch.