1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 1 Rhagfyr 2021.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru? OQ57277
Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant Cymru yn cynnal digwyddiadau mawr. Rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda pherchnogion digwyddiadau ledled Cymru gyfan, ac roeddwn yn falch o weld digwyddiadau fel Focus Cymru a Cwpan Curtis yn darparu buddion economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i ogledd Cymru eleni.
Diolch, Weinidog. Yn wir, roedd Cwpan Curtis yn llwyddiant ysgubol, a Focus Cymru hefyd, ac wrth gwrs, mae gennym ddigwyddiadau blynyddol gwych y mae Llywodraeth Cymru'n eu cefnogi yng ngogledd Cymru. Ac yn wir, mae potensial gan ddigwyddiadau mawr fel y Tour de France a Cwpan y Byd UEFA i drawsnewid y cymunedau y maent wedi'u lleoli ynddynt er gwell. Weinidog, beth yw eich asesiad o sut y byddai cais llwyddiannus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant yn helpu'r fwrdeistref sirol gyfan i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr a mewnfuddsoddiad i'r ardal?
Diolch am eich cwestiwn. A dylwn ddweud, mae gan Gymru hanes da nid yn unig o ddenu ond o gael budd gwirioneddol o ddigwyddiadau mawr, a dylid canmol yr Aelod am ei gyfnod yn y Llywodraeth yn helpu i ddatblygu hynny. Rydym yn gweld y digwyddiadau rydym yn helpu i'w hariannu yn gwneud elw ar y buddsoddiad o tua 10:1, felly mae'n darparu budd economaidd sylweddol, a budd diwylliannol a chymdeithasol hefyd fel y dywedwyd. Ac rwy'n frwdfrydig ynghylch cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU; hwy yw'r unig ymgeisydd o Gymru sydd ar ôl yn y ras. Ac rydym wedi gweld o ddinasoedd diwylliant eraill y DU y gall fod yn gatalydd ar gyfer mwy o fuddsoddiad a gwell dealltwriaeth o'r ddinas honno a'i chymdogion agos, a'r hyn y gall hynny ei wneud i ddenu mwy o fuddsoddiad gan fewnfuddsoddwyr o ran busnes, yn ogystal â gallu adeiladu ar hanes o economi ymwelwyr gynaliadwy. Felly credaf ei bod yn agwedd gadarnhaol iawn, a bydd fy swyddogion yn fwy na pharod i archwilio cyfleoedd i gydweithio i arddangos digwyddiadau ar gyfer 2025, pe bai Wrecsam yn llwyddiannus. Ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn y Siambr—o'r gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin—yn dymuno’n dda i Wrecsam gyda'u cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU ymhen ychydig flynyddoedd.
Weinidog, nid oes angen dweud bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i ddigwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru, a ledled Cymru gyfan. Bu'n rhaid canslo digwyddiadau ar fyr rybudd. Bellach, mae rhai trefnwyr digwyddiadau'n gyndyn o gynnal digwyddiadau oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â mesurau lliniaru COVID. Ond nid yw wedi bod cynddrwg â hynny, gan fod y pandemig wedi golygu bod mwy o bobl wedi dod ar wyliau i ogledd Cymru, sy'n wych. Gwelsom gynyrchiadau teledu mawr fel I'm a Celebrity, hyd yn oed, yn dod i'r rhanbarth—ac roedd yn dda eu gweld yn ôl ar ITV neithiwr, ar ôl ychydig ddyddiau oddi ar y teledu oherwydd storm Arwen. Mae'r digwyddiadau hyn yn arddangos beth sydd gan y rhanbarth i'w gynnig, ac wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr â fy etholaeth. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i drefnwyr digwyddiadau yn Nyffryn Clwyd, ac ar draws rhanbarth gogledd Cymru, na fydd mwy o gyfyngiadau symud ac y dylent barhau i drefnu digwyddiadau drwy gydol 2022?
Wel, gallwn gytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd yr Aelod a'i gefnogi, tan iddo ddweud 'Rhowch warant i mi ar y dyfodol.' Edrychwch, y gwir amdani yw, os byddwn yn gweld amrywiolyn newydd omicron, ac os yw'n rhywbeth sy'n lledaenu'n llawer cyflymach na hyd yn oed amrywiolyn delta, ac os yw'n peri'r un lefel o niwed yn y boblogaeth ac i bob unigolyn, yna oherwydd y ffaith ei fod yn lledaenu'n gyflymach, bydd yn amrywiolyn mwy peryglus. Dyna pam fod pob Llywodraeth ledled y DU wedi rhoi cyfres o fesurau newydd ar waith.
Er hynny, hoffwn allu cefnogi'r economi ymwelwyr ledled gogledd Cymru, ledled de a chanolbarth Cymru, i ddeall sut rydym yn cynhyrchu mwy o weithgarwch ac yn cael hyder i wella'r economi ymwelwyr yn fwy cyffredinol, gan fy mod yn sicr yn cydnabod ei fod yn sector economaidd pwysig ar gyfer y dyfodol. A hoffwn adeiladu ar y ffaith bod mwy o bobl wedi dod i wahanol rannau o Gymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac i gael economi ymwelwyr wirioneddol gynaliadwy—drwy gydol y flwyddyn, a chanddi swyddi da yn hytrach na swyddi tymhorol yn unig.
Felly, byddwn yn gwneud popeth a allwn i gefnogi'r economi ymwelwyr, a'r economi ehangach, a byddwn yn cymryd pob cam rhesymol y gallwn eu cymryd i osgoi mesurau pellach y gallai fod angen eu cymryd yn ystod y pandemig, gan ein bod yn cydnabod, os ydym yn cymryd cam yn ôl, y gallai hynny arwain at niwed gwirioneddol i'r economi, yn ogystal ag iechyd corfforol a meddyliol. Felly, bydd dewisiadau'r Llywodraeth yn parhau i fod yn glir, yn gyson, yn gytbwys ac yn agored.