Sectorau â Chyflogau Uwch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:15, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, ar 18 Hydref, cynhaliais uwchgynhadledd economaidd i drafod gyda rhanddeiliaid sut y gallwn gydweithio i fynd ar drywydd polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar swyddi gwell, yn lleihau'r gagendor sgiliau ac yn trechu tlodi. Un enghraifft wych yw bargen ddinesig bae Abertawe, sy'n anelu at greu dros 9,000 o swyddi medrus a chynnydd o £1.8 miliwn yn y gwerth ychwanegol gros.