Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch. Mae ein cynllun gweithredu ar allforio yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i hyrwyddo manteision masnach ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys darparu ystod gynhwysfawr o raglenni allforio i gefnogi busnesau ar eu taith allforio. Rydym eisiau adeiladu capasiti allforio ac ysbrydoli busnesau eraill i allforio, i ddod o hyd i gwsmeriaid tramor ac i gael mynediad at farchnadoedd tramor. Byddwn yn parhau i wneud y gwaith hwnnw gyda fy swyddogion, a sefydliadau busnes eu hunain yn wir.