Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Weinidog, mae'r diwydiant awyrofod yn ffynhonnell cyflogaeth â chyflog da yn fy etholaeth i, yn enwedig Airbus a'i gadwyn gyflenwi gyfagos, ond mae'r manteision yn mynd yn llawer pellach nag Alun a Glannau Dyfrdwy yn unig—maent yn ymestyn ar draws pob rhan o Gymru. Bydd y setiau sgiliau hyn yn y diwydiant o fantais i ni ar gyfer y dyfodol, a chredaf ein bod wedi gweld y gorau o'r set sgiliau honno y llynedd pan welsom y gweithwyr yn mynd ati i gynhyrchu peiriannau anadlu mewn cyfnod o angen dybryd. Yn fy marn i, mae'n bwysig yn awr ein bod yn anfon neges glir ein bod yn cefnogi'r sector awyrofod a bod ewyllys wleidyddol i wneud hynny. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd y neges glir hon, ac a wnewch chi gyfarfod â mi i drafod y mater hwn ymhellach?