Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith rydych chi wedi'i wneud; mae gennych swydd hynod o brysur. Ond rwyf am sôn am ddannedd a deintyddion, yn enwedig dannedd pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a dannedd y bobl yn nhref Llandrindod yn benodol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi ysgrifennu atoch droeon, ond mae pryderon enfawr ynghylch diffyg deintyddion ar draws y rhanbarth, ac yn Llandrindod yn enwedig, ac mae hynny wedi bod yn wir ers nifer o flynyddoedd, cyn COVID. Gwyddom fod heriau sylweddol gyda COVID mewn perthynas â thrin pobl mewn deintyddfeydd, ond mae gwahaniaeth enfawr yma. Os ewch at ddeintydd preifat, gallwch gael eich gweld bron ar unwaith. Os ewch at ddeintydd y GIG, ni allwch wneud hynny. Ac nid yw'n gwneud gwahaniaeth os ydym mewn cyfnod o COVID neu beidio.
Felly, rwyf am ofyn i chi'n benodol: a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau ar gyfer deintyddion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ac yn Llandrindod, ac ar draws Cymru gyfan hefyd? Diolch yn fawr iawn.