Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:09, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Fel y dywedwch yn gwbl gywir, fe wnaethoch nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaeth o safon fyd-eang ym mhob rhan o Gymru yn adolygiad a strategaeth 2018. Galwai am newid tuag at atal ac ymyrraeth gynnar rymusol ac am fynediad teg at driniaeth a chymorth ar sail tystiolaeth. Mae staff mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta bellach o dan fwy o bwysau nag o'r blaen oherwydd lefel y galw am driniaeth. A yw'r Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi fframwaith neu fodel gwasanaeth newydd, gan gynnwys amserlenni, i arwain byrddau iechyd yn eu hymateb i'r adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta? Ac a fydd yn sicrhau bod adnoddau canolog priodol ar gael i gefnogi'r gwaith hwn?