Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:15, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Nid yw pobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn edrych fel y bobl ar y cyfryngau cymdeithasol o ran eu ffotograff. Mae llawer wedi'u golygu â meddalwedd Photoshop ac mae llawer wedi defnyddio ffilteri i wneud i'w hunain edrych yn llawer gwell. A gaf fi ddweud bod anhwylderau bwyta, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl arall, o dan bwysau cynyddol? Cafwyd adroddiadau fod gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru yn wynebu galw digynsail o ran nifer yr atgyfeiriadau. Felly, y cwestiwn sydd gennyf yw: pa bryd y gwelwn argymhellion yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta Cymru yn cael eu gweithredu'n llawn, gan gynnwys darparu hyfforddiant digonol i staff a chynllun gweithredu?