Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch, Weinidog, mae'n wych clywed hynny, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod cartrefi gofal yn fy etholaeth yn Ne Clwyd wedi ymdopi'n anhygoel o dda drwy gydol y pandemig gyda'r heriau enfawr a ddaeth yn sgil y coronafeirws, yn aml ar draul iechyd corfforol a meddyliol y staff. Ar ran y lleoliadau gofal hynny yn fy etholaeth, a gaf fi ofyn sut y bydd y £42 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo?