Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Rydym ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, a dim ond yr un bleidlais sydd gennym ni heno, ac mae hynny ar eitem 7, sef y bleidlais ar gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Vaughan Gething. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig.