Trais yn Erbyn Menywod

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:20, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Yr wythnos diwethaf, cafodd ffigurau annymunol eu cyhoeddi ar gyfer ardal Gwent o ran trais domestig. Dywedodd y South Wales Argus fod troseddau cam-drin domestig wedi mwy na dyblu yng Ngwent yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Er gwaethaf deddfwriaeth fel Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ac ymgyrchoedd uchel eu proffil fel ymgyrch ddiweddar y Rhuban Gwyn, mae gennym ni broblemau o hyd yng Nghymru o ran cam-drin domestig. Mae dileu'r drosedd hon wedi ei gwneud yn anoddach byth oherwydd natur newidiol ein bywydau gwaith, wrth i lawer weithio gartref bellach. Mae'r pandemig wedi cyd-daro â chynnydd i drais domestig, yn anffodus. Sut mae'r Llywodraeth hon yn teilwra ei dull o fynd i'r afael â thrais domestig, o ystyried y ffordd y mae coronafeirws wedi newid bywydau pobl?