Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o'r gogledd yn wledig, yn wahanol i ardaloedd dinesig mawr fel Caerdydd. Mae'n we gymhleth o ganolfannau trafnidiaeth sy'n cynnwys llawer o gymunedau gwledig ynysig, llawer iawn o ganol trefi hanesyddol, cyfleusterau iechyd, gorsafoedd rheilffordd, ac mae wedi ei gysylltu yn gynhenid ag addysg i'w gwneud yn ymarferol. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr wybodaeth helaeth am arbenigedd awdurdodau lleol a chysylltiadau da â gweithredwyr y rhwydwaith cymhleth hwn yn cael ei rhannu yn effeithiol â chyd-bwyllgorau corfforaethol ac yn cael ei datblygu ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn, wrth gadw dewisiadau lleol hefyd?