Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Yn ddiweddar, gwnes i gyfarfod â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i drafod incwm sylfaenol cyffredinol ac wythnos waith pedwar diwrnod, ac yr oedd yn ddiddorol clywed bod nifer o fusnesau yng Nghymru wedi cysylltu â'i swyddfa yn gofyn am gymorth i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ceisio dysgu o gynlluniau peilot mewn mannau eraill yn y byd, ond o gofio bod nifer o fusnesau yng Nghymru yn bwriadu treialu wythnos waith pedwar diwrnod ac yn awyddus i ddechrau arni, a fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried rhoi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r busnesau hyn fel y gallwn ni roi hwb i daith Cymru tuag at wythnos waith pedwar diwrnod?