3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu — Diweddariad

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:50, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Brechu yw ein hamddiffyniad cryfaf ni o hyd yn erbyn y feirws creulon hwn. Erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf, fe fydd miliwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn trydydd, dos atgyfnerthu. Ond mae yna ormod o bobl o hyd nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cynnig o frechiad, ac os oes un neges yr hoffwn i ei chyfleu i chi heddiw, mae'n rhaid mai hon yw hi: pan fyddwch chi'n cael eich gwahoddiad i fynd am frechiad, boed hwnnw'n frechiad cyntaf, neu'n ail neu'n un atgyfnerthu, gwnewch honno'n flaenoriaeth i chi, os gwelwch chi'n dda. Nid oes unrhyw beth arall y gallech chi ei wneud ar y diwrnod hwnnw a fyddai'n gwneud mwy i helpu i'ch cadw chi neu i gadw pobl eraill yn ddiogel. Ac nid yw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yma yng Nghymru. Os nad ydych chi wedi eich brechu eto, dewch ymlaen nawr. Dyma'r anrheg Nadolig gorau y gallech chi ei roi i chi eich hunan a'ch teulu chi eleni, ac nid yw hi'n rhy ddramatig i ddweud bod hwnnw'n fuddsoddiad i sicrhau eich bod chi yma i ddathlu'r Nadolig yn iach ac yn hapus y flwyddyn nesaf hefyd.

Llywydd, er gwaethaf yr her barhaus o ymateb i'r pandemig, rydym ni'n parhau i fwrw ymlaen yn y Llywodraeth, ym mha fodd bynnag y gallwn ni, â'n blaenoriaethau ni a'r holl gamau gweithredu hynny a fydd yn creu dyfodol gwell y tu draw i'r pandemig. Nododd fy mhlaid i chwe phrif addewid yn ein maniffesto yn gynharach eleni. Rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol ar bob un ohonyn nhw, a byddaf i'n tynnu sylw heddiw at dri yn unig.

Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n cadw'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu sy'n bresennol yng Nghymru, sy'n gwneud cymaint i gadw ein cymunedau yn ddiogel, ac y byddem ni'n ariannu 100 arall yn oes y Senedd hon. Bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gadw yn ei gyfanrwydd nid dros bum mlynedd, ond ym mlwyddyn gyntaf y tymor Seneddol hwn. Mae'r cyllid wedi ei sicrhau ac mae'r broses o recriwtio'r 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yn mynd rhagddi ers amser. Cefais i'r fraint o dreulio amser gyda swyddogion yr heddlu wrth eu gwaith yn Wrecsam yn ddiweddar, lle clywais i'n uniongyrchol am y lles y bydd y swyddi ychwanegol hynny yn ei wneud i blismona rheng flaen.

Fis diwethaf, lansiodd Gweinidog yr economi gam cyntaf y warant i bobl ifanc, sy'n warant i sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yma yng Nghymru ar ôl y pandemig. Fe wnaethom ni addo talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol hefyd. Rydym ni wedi derbyn cyngor erbyn hyn gan y fforwm gofal cymdeithasol ar sut i wneud hynny ar gyfer gweithlu mawr a symudol wedi eu gwasgaru ar draws cannoedd o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a phan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 20 Rhagfyr, bydd rhagor o fanylion am sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad pwysig iawn hwnnw.

Mae ymdrechion ymarferol i gyflawni gweddill ein rhaglen radical yn parhau bob dydd. Fe wnaethom ni addo y byddem ni'n buddsoddi yn ein gweithlu iechyd a gofal ac yn sefydlu ysgol feddygol newydd yn y gogledd. Y penwythnos hwn, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid yn gynharach, fe gyhoeddodd y Gweinidog iechyd gyllid ychwanegol am yr wythfed flwyddyn yn olynol ar gyfer gweithlu iechyd a meddygol y dyfodol, gan ychwanegu £260 miliwn arall at y gyllideb ar gyfer hyfforddiant.

Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd i Gymru, a'r wythnos diwethaf fe gadarnhaodd y Gweinidog addysg £6.8 miliwn ar gyfer addysg cerddoriaeth a'r celfyddydau mewn ysgolion, gan roi offerynnau cerddorol yn nwylo myfyrwyr.

Fe wnaethom ni ymrwymo i ddal ati i weithio tuag at ddileu trais yn erbyn menywod a merched, ac, fel y dywedais i'n gynharach y prynhawn yma, rydym ni'n lansio ymgynghoriad heddiw ar ein strategaeth newydd pum mlynedd.

Llywydd, yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn gwneud datganiad ynglŷn â'r modd yr ydym ni'n bwriadu diwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Dyma un o'r meysydd penodol sy'n cael eu cwmpasu gan y cytundeb cydweithredu. Rwyf i o'r farn fod hon yn enghraifft ardderchog o'r hyn y bydd y cytundeb yn galluogi'r Senedd hon i'w gyflawni. Y dreth gyngor yw'r dull mwyaf atchweliadol o drethu yng Nghymru. Mae'r rhai sydd â'r incwm lleiaf yn talu cyfran lawer uwch o'r incwm hwnnw drwy'r dreth gyngor na'r rhai sy'n llawer mwy cefnog. Yn nhymor y Senedd diwethaf, mewn adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, nodwyd ffyrdd y gellid diwygio'r dreth gyngor i'w gwneud hi'n decach. Nawr, mae yna rai pobl yn y Siambr hon a oedd yma yn nyddiau'r ailbrisiad mawr diwethaf i'r dreth gyngor yn 2003, a byddan nhw'n cofio pa mor gymhleth a gwleidyddol heriol yr oedd hynny. Bydd y cytundeb cydweithredu yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r gallu gwleidyddol cyfunol i ni gael diwygiad arall, 20 mlynedd ar ôl yr ailbrisio cyntaf hwnnw. A, Llywydd, byddwn yn mynd ymhellach na diwygio'r system gyfredol. Byddwn yn defnyddio'r tair blynedd nesaf sy'n cael eu cwmpasu gan y cytundeb cydweithredu i adeiladu gyda'n gilydd ar y gwaith a wnaed yn nhymor y Senedd diwethaf o ran dewisiadau amgen a mwy sylfaenol i'r dreth gyngor, dewisiadau amgen a allai fod yn decach i ddinasyddion ac yn fwy effeithiol wrth gefnogi datblygiadau economaidd ym mhob rhan o Gymru. Un enghraifft yn unig yw hon o'r 46 maes yn y cytundeb cydweithredu, ac mae pob un o'r rhain yn cael eu cynrychioli erbyn hyn yn y rhaglen lywodraethu ddiwygiedig, yr ydym ni wedi ei chyhoeddi.

Llywydd, dim ond un rhaglen lywodraethu sydd. Hwn yw'r fframwaith y mae'r gwasanaeth sifil a phartneriaid eraill yn ei ddefnyddio i ganolbwyntio eu hymdrechion nhw ar y blaenoriaethau ar draws ein cyfrifoldebau datganoledig. Mae yna rannau allweddol o'r rhaglen a fydd yn cael eu datblygu bellach mewn cynghrair flaengar rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a bydd hynny yn harneisio ein hymdrechion yn wyneb heriau digynsail a gwrthwynebiad Llywodraeth y DU yn San Steffan sy'n anghymwys ac esgeulus. [Torri ar draws.] Wel, Llywydd, ni fydd pobl eraill wedi clywed y gri 'gwarthus' yn y lle hwn, ac rwy'n cytuno â hynny—mae cyfradd y gwrthwynebiad a'r anallu yr ydym yn ei wynebu bob dydd oddi wrth y Llywodraeth honno yn wir yn warthus, felly rwy'n hapus i ategu'r sylwadau hynny.

Ymysg pwyslais uniongyrchol y polisïau rhaglen lywodraethu hynny sy'n adlewyrchu'r cytundeb cydweithredu, fydd ymestyn prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd ar gyfer pob disgybl ysgol gynradd, ac ehangu gofal plant hyd at blant dwy flwydd, a chamau radical ac uniongyrchol i fynd i'r afael â'r problemau a wynebir gan bobl nad ydyn nhw'n gallu cael cartref cyntaf mewn cymunedau lle mae llawer o ail gartrefi a chartrefi gwyliau hefyd. Mae ymgynghoriadau wedi eu lansio ar amrywiaeth o offerynnau polisi y gallwn ni eu defnyddio, a bydd y gwaith gwirioneddol o ddatblygu a chyflwyno polisïau newydd yn y meysydd hynny yn awr yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth.

Llywydd, rwyf i am orffen yn y man y cychwynnais i y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu rhoi'r diweddariad hwn heddiw. Rwyf i o'r farn bod y gallu i weithio gydag eraill ar agendâu a rennir wedi bod yn nodwedd o dymhorau Seneddol olynol, ac y bydd hynny'n cynnig manteision pendant i bobl yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Ond, bydd yn rhaid i'r argyfwng iechyd cyhoeddus dybryd fod yn flaenoriaeth dros bopeth arall i ni dros yr wythnosau nesaf. Drwy ein rhaglen frechu a'r holl gamau eraill y gallwn ni eu cymryd i gadw ein gilydd yn ddiogel, byddwn yn dod trwy waethaf y storm sydd o'n blaenau ni. Ond nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hynny. Mae angen i bob un ohonom ni, i bob dinesydd yng Nghymru, ddal ati i fwrw ymlaen gyda'n gilydd unwaith eto i achub bywydau a fyddai'n cael eu colli fel arall, i amddiffyn ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol rhag y perygl y bydden nhw'n cael eu llethu fel arall, a thywys Cymru yn ddiogel drwy gyfnod o berygl mawr sy'n ein hwynebu ni i gyd.