4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio’r Dreth Gyngor yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:45, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein rhaglen lywodraethu yn gwneud ymrwymiad clir i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach. Mae'r cytundeb cydweithredu yr ydym wedi ymrwymo iddo gyda Phlaid Cymru yn ailddatgan y nod hwnnw, a heddiw rwyf am nodi'r camau cychwynnol cyntaf ar hyd y daith honno.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r dreth gyngor yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol, o addysgu ein plant i ofalu am ein hanwyliaid i ailgylchu ein gwastraff, i roi ychydig o enghreifftiau yn unig. Ond mae angen diwygio'r system. Ein huchelgais yw sicrhau bod y cyfraniadau a wneir gan bobl Cymru yn cael eu cymhwyso mor deg â phosibl. Dylai system y dreth gyngor fod yn fwy blaengar o ran ei dyluniad a dylid ei moderneiddio wrth ei chyflwyno, ar ôl bodoli ar ei ffurf bresennol ers 1993.

Rwyf yn falch o gyflawniadau ein Llywodraeth yng Nghymru ar y dreth gyngor yn ystod y tymor diwethaf. Rydym wedi dileu'r bygythiad o garchar am beidio â thalu, rydym wedi creu eithriad newydd ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal, rydym wedi gwella mynediad at ostyngiadau i bobl â nam meddyliol difrifol, ac rydym wedi lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys ein cynllun cenedlaethol i leihau'r dreth gyngor. Hoffwn gofnodi fy niolch i Aelodau a chydweithwyr llywodraeth leol am weithio gyda ni ar y newidiadau pwysig hynny.

Ym mis Chwefror, roeddwn yn falch o gyhoeddi darn mawr o waith, 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau', gan gynnwys gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Prifysgol Bangor ac arbenigwyr enwog eraill yn y maes hwn. Mae'n dangos y dystiolaeth bwysig rydyn ni ei hangen i nodi’r dewisiadau sydd o'n blaenau ac i lywio'r penderfyniadau mae angen i ni eu gwneud. Fe wnaethom archwilio ystod eang o opsiynau, o newid cymedrol hyd at ailgynllunio sylfaenol, megis treth gwerth tir. Bydd y canfyddiadau hynny'n ein helpu i feddwl am yr opsiynau ar gyfer diwygio ystyrlon dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â'r sylfeini mae angen i ni eu gosod ar gyfer newid mwy sylfaenol, tymor nhw.

Fe wnes i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol yn ddiweddar i gasglu eu barn o bob rhan o Gymru. Byddan nhw'n bartneriaid hanfodol wrth helpu i gyd-ddylunio a chyflawni'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni. Rwyf hefyd wedi dechrau gweithio'n agos gyda chydweithwyr Plaid Cymru ar y flaenoriaeth bwysig hon a rennir. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn newid pwysig, a dyna pam yr wyf yn awyddus bod y diwygiadau hyn yn rhan o sgwrs genedlaethol, ddinesig gyda phobl Cymru. Dyna pam y byddaf yn ymgynghori, maes o law y flwyddyn nesaf, ar becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor fel man cychwyn y daith hon i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon.

Cam cyntaf pwysig, a bloc adeiladu hanfodol y bydd newidiadau eraill yn dilyn arno, fydd edrych ar opsiynau ar gyfer ailbrisio yng Nghymru. Ar ôl cynnal ailbrisiad yn 2003, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi diweddaru ei sylfaen treth gyngor ers y 1990au, ond mae'r dosbarthiad treth yng Nghymru bron i 20 mlynedd ar ôl yr oed. Bydd ail-brisio’r tymor hwn, a gwneud hynny'n amlach wedi hynny, yn rhoi'r llwyfan i ni newid. Bydd yn rhoi cyfle i ni ychwanegu bandiau at y gwaelod neu ben uchaf y raddfa er mwyn adlewyrchu cyfoeth aelwydydd a gallu pobl i dalu'n well—y camau cyntaf i system decach. Byddwn hefyd yn edrych ar newidiadau i'n cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Rydym wedi parhau i gynnal hawliau i ostyngiadau ar gyfer dros 275,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel, a byddaf yn cyflwyno rheoliadau cyn bo hir i ddiweddaru'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf, lle byddwn unwaith eto'n buddsoddi £244 miliwn i'w gefnogi.

Fodd bynnag, datblygwyd y cynllun yn gyflym yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor yn 2013. Ers cyflwyno ein cynllun cenedlaethol, rydym wedi gweld dechrau cyflwyno credyd cynhwysol. Wrth i'r broses o gyflwyno credyd cynhwysol symud yn ei blaen, mae'n cyflwyno cymhlethdod i'r ffordd mae pobl yn gwneud cais am gymorth a'r ffordd mae eu hawl yn cael ei chyfrifo. Mae angen i ni sicrhau bod ein cynllun yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith credyd cynhwysol, ond gallem fynd ymhellach. Mae angen i ni adolygu'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor er mwyn sicrhau ei fod wedi'i foderneiddio, yn hawdd cael mynediad ato ac nad yw'n atal unrhyw un rhag gwneud cais am ei hawl haeddiannol i gael cymorth. Byddwn hefyd yn edrych yn ofalus gyda phartneriaid ar y ffordd y gallwn foderneiddio'r gwaith o ddiweddaru biliau'r dreth gyngor, gan fanteisio ar dechnoleg newydd fel rhan o'r gwaith ehangach rydym yn ei wneud i wella rhyngweithio unigolion â gwasanaethau cyhoeddus allweddol a'u dealltwriaeth ohonynt. Nawr yw'r amser cywir i gydweithio i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar. Mae angen i ni feddwl yn eofn. 

Rwyf am fod yn glir iawn—ni fydd unigolion yn gweld unrhyw newidiadau ar unwaith i'w biliau. Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud cyn y gellir cyflwyno diwygiadau. Byddaf hefyd yn edrych yn ofalus ac yn sensitif, wrth i ni symud drwy'r newidiadau hyn, ar yr opsiynau posibl ar gyfer cymorth trosiannol i'r rhai mae unrhyw newidiadau'n effeithio arnynt. Byddaf yn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wnawn yn ystod tymor y Senedd hwn yn cadw'r potensial i fynd ymhellach yn y dyfodol yn agored. Byddaf yn parhau i archwilio syniadau mwy radical, megis system sydd â chysylltiad agosach â gwerthoedd tir fel math mwy blaengar o godi refeniw.

Yn olaf, yn gysylltiedig â'n hystyriaethau tymor hwy, rwy'n ystyried pa ddiwygiadau sydd eu hangen i'r system ardrethi annomestig. Mae cysylltiadau penodol rhwng y trethi lleol hyn, ac mae'n ffrwd refeniw allweddol arall ar gyfer gwasanaethau lleol. Amlygodd yr ymchwil a gynhaliwyd gennym y tymor diwethaf gyfleoedd gwirioneddol yn y maes hwn, a bydd angen diwygio er mwyn sicrhau bod y system dreth leol yn ei chyfanrwydd yn parhau i fod yn addas i'r diben wrth i ni wella o'r pandemig.

Wrth i ni wynebu ansefydlogrwydd economaidd, anghydraddoldeb ac argyfwng newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni sicrhau bod y trefniadau ar gyfer trethi lleol yn gadarn, y gallant ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a helpu i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru decach. Bydd y diwygiadau hyn yn ymgymeriadau sylweddol y bydd angen amser deddfwriaethol arnynt a chefnogaeth Aelodau o bob rhan o'r Senedd hon. A byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau. Diolch.