Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Er y bydd meysydd yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru nawr o gymorth enfawr i leddfu'r anfantais sy'n cael ei achosi gan dlodi, fel yr hawl i ofal plant am ddim i blant dwy flwydd oed a phrydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, ni ddylem ni fod yn fodlon ar hynny'n unig. Ni allwn ni golli uchelgais wrth ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni—y rhai nad ydyn nhw ddim llai na dyfodol ein cenedl. Y polisïau hyn y mae wedi bod eu hangen arnom ni ers tipyn yw'r camau cyntaf. A phan glywaf i rai Aelodau ar feinciau eraill yn sôn am gost y camau hyn, mae'n fy ngwneud yn ddig ac mor rhwystredig, oherwydd wrth ymdrin â materion fel hyn, mae angen i ni siarad llai am gost a mwy am fuddsoddi—buddsoddi yn ein blaenoriaeth bwysicaf. Nid blaenoriaeth yn unig, ond y flaenoriaeth. Ac os nad ydym ni'n mabwysiadu'r meddylfryd hwnnw, yna ni fyddwn ni byth yn cyflawni'r hyn y mae'r cynnig ger ein bron yn ei gynrychioli: ymrwymiad gwirioneddol a rhwymol i glywed a chydnabod anghenion plant, ac i roi'r anghenion hynny wrth wraidd popeth a wnawn ni ac yr ydym ni eisiau'i gyflawni fel cenedl mewn termau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, sifil a gwleidyddol.
Un mater sydd wedi'i godi dro ar ôl tro gan adroddiadau a rhanddeiliaid wrth werthuso effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu CCUHP yw asesiadau o'r effaith ar hawliau plant, ac rydym ni wedi clywed ychydig amdano y prynhawn yma. Er bod asesiadau effaith, yn amlwg, yn adnoddau pwysig, mae'n rhaid iddyn nhw beidio â dod yn ymarfer ticio blychau, a dylen nhw, yn hytrach, ddylanwadu ar bolisi—dylanwadu'n ystyrlon ar bolisi.
Fel yr oeddem ni wedi clywed gan bwyllgor y Senedd—. Gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddarganfod bod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn cael eu cynhyrchu'n llawer rhy hwyr yn y broses o ddatblygu polisi, sydd, wrth gwrs, nid yn unig yn niweidiol i hawliau plant a phobl ifanc, ond yn awgrymu nad yw hawliau plant bob amser yn gyrru penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Llywodraeth. Gan fod yr asesiadau effaith integredig hyn yn chwarae rhan yn y cynllun hawliau plant drafft y pleidleisir arno heddiw, rhaid i'r Llywodraeth ofalu i sicrhau bod yr asesiadau hyn yn cael eu cynnal yn briodol gyda gofal priodol er budd plant Cymru. Yn rhy aml, mae polisi blaengar a goleuedig yn syrthio wrth gyrraedd rhwystr gweithredu hwnnw.
Mae'r asesiadau effaith hyn hefyd yn cael eu defnyddio i ymdrin â materion gwahaniaethu ymhlith gwahanol grwpiau o blant. Rydym ni'n ymwybodol bod pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu Islamoffobia, hiliaeth, anablaeth a mathau eraill o wahaniaethu drwy gydol eu hamser yn system addysg Cymru ac yn eu bywyd cymdeithasol ehangach. Mae arolygon ac adroddiadau diweddar wedi dangos bod hyn yn wir, megis y darlun erchyll a gafodd ei ddatgelu gan wefan Everyone's Invited, sy'n dangos sut mae rhai o'n disgyblion ysgol ni'n gorfod ymdrin â'r diwylliant ofnadwy hwn o gasineb at fenywod, aflonyddu rhywiol, cam-drin rhywiol ar-lein a gorfodaeth rywiol. Felly, o ystyried y cynnydd yn hyn a llawer o fathau eraill o droseddau casineb yn ein cymdeithas, gall llawer o bobl iau o grwpiau penodol fod yn arbennig o bryderus am eu diogelwch a'u hawliau. Ac mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn rhoi cymorth penodol i'r grwpiau hyn o blant ac yn gwneud cyfiawnder â nhw o fewn asesiad effaith. Dylai diwydrwydd dyladwy hefyd gael ei dalu ynghylch pryd y mae bwlio'n croesi i'r diriogaeth honno o droseddau casineb, ac i sicrhau nad yw effaith gronnol gwahaniaethu ar bobl ifanc yn cyrraedd y pwynt lle mae'n drawma i berson ifanc ac yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym ni'n ymwybodol bod cost ddynol ac economaidd trawma plentyndod yn rhy uchel ac yn para'n hir. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal ac nid dim ond ymdrin â'r materion hyn.
Nid oes modd cefnogi plant a phobl ifanc i wireddu eu hawliau fel dinasyddion Cymru a'r byd os nad ydyn nhw'n ymwybodol ohonyn nhw. Roedd y diffyg ymwybyddiaeth o hawliau plant ymhlith plant eu hunain a'r cyhoedd yn ehangach yn fater arall a gafodd ei godi gan adroddiad y pwyllgor. Felly, mae cynnal adolygiadau rheolaidd ar effeithiolrwydd y cynllun hwn yn allweddol i sicrhau bod ganddo'r cyrhaeddiad angenrheidiol ac yn rhoi canlyniadau boddhaol.
Un o'r pethau y gall y Senedd fod yn fwyaf balch ohono, wrth gwrs, yw'r Senedd Ieuenctid; gwnaethom ni ei chlywed hi'n cael ei hethol yma yr wythnos diwethaf—a'r penderfyniad i ostwng yr oedran pleidleisio i'n Senedd i 16 oed. Nid oes amheuaeth y bydd y camau hyn yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi i glywed safbwynt unigryw ein dinasyddion iau. Ond rwy'n gwybod, yn rhy aml o lawer, fod plant weithiau'n ceisio lleisio eu barn, ond nid yw eu barn yn cael ei gwerthfawrogi, ac mae hyn yn aml i'w weld pan fyddwn ni'n ystyried penderfyniadau i gau ysgolion, er enghraifft—